Luc 23
23
Cyhuddo’r Iesu o flaen Peilat a Herod
1Ar hynny, dyna nhw’n codi yn un dorf, a dwyn yr Iesu at Beilat; 2ac fe ddechreuson ei gyhuddo, gan ddweud, “Cawsom y dyn hwn yn creu terfysg ymhlith y bobl, gan ei fod yn gwahardd rhoi treth i Gesar, ac yn hawlio mai ef ei hun yw’r Meseia sy’n frenin.”
3Holodd Peilat ef, “Ai ti yw Brenin yr Iddewon?”
“Ti sy’n ei ddweud,” meddai yntau.
4Dywedodd Peilat wrth y prif offeiriaid a’r torfeydd, “Dydw i’n cael dim o’i le yn y dyn hwn.”
5Ond mynnu eu ffordd roedden nhw, a dweud, “Y mae’n cyffroi’r bobl a’i dysgu, drwy holl Jwdea; dechreuodd yn Galilea, a nawr mae wedi cyrraedd yma.”
6Pan glywodd Peilat sôn am Galilea, gofynnodd ai Galilead oedd. 7Ac wedi deall ei fod o ranbarth a reolid gan Herod, anfonodd ef ato, gan ei fod yntau yn Jerwsalem ar y pryd.
8Roedd Herod yn falch iawn o weld yr Iesu: bu ers tro’n dymuno ei weld, gan iddo glywed cymaint sôn amdano, a gobeithiai ei weld yn cyflawni rhyw wyrth neu’i gilydd. 9Holodd ef yn fanwl, ond heb gael ateb. 10A safai’r prif offeiriaid ac athrawon y Gyfraith gerllaw, gan ei gyhuddo’n ffyrnig. 11Gan daflu gwawd ar honiadau’r Iesu, gwatwarai Herod a’i filwyr ef; gwisgwyd ef mewn gwisg ysblennydd, a’i anfon i fyny’n ôl at Peilat. 12A’r diwrnod hwnnw fe gymodwyd Herod a Pheilat, wedi iddyn nhw fod mewn gelyniaeth â’i gilydd.
Peilat yn cyhoeddi’r Iesu’n ddi-euog
13Galwodd Peilat ato y prif offeiriaid, a’r llywodraethwyr a’r bobl, 14a dywedodd wrthyn nhw, “Daethoch â’r dyn hwn ataf ar gyhuddiad o gamarwain y bobl i fod yn anheyrngar. Ond fe welsoch fi’n ei holi, heb gael ynddo ddim arwydd o’r beiau hyn y cyhuddwch ef ohonyn nhw. 15Ac ni chafodd Herod chwaith, oherwydd anfonodd ef i fyny’n ôl atom. Ni wnaeth ddim a haedda farwolaeth. 16Felly, ceryddaf ef a’i ollwng yn rhydd.”
18Ond gwaeddodd pawb ar unwaith, “I ffwrdd ag ef! Gollwng Barabbas yn rhydd.”
19Roedd hwnnw wedi ei daflu i garchar am greu terfysg yn y ddinas, ac am lofruddiaeth.
20Siaradodd Peilat â nhw drachefn, gan ddymuno gollwng yr Iesu yn rhydd. 21Ond gweiddi eilwaith a wnaethon nhw, “Croeshoelia ef, croeshoelia ef!”
22Ceisiodd yntau’r drydedd waith, gan ofyn, “Ond pa ddrwg a wnaeth hwn? Ni chefais i ddim ynddo sydd yn haeddu marwolaeth. Felly rhoddaf gerydd iddo, a’i ollwng yn rhydd.”
23Ond dal i weiddi’n uchel a wnaen nhw am ei hoelio ar groes, a’u crochlefain nhw a aeth â hi. 24A dyfarnodd Peilat o’u plaid, 25gan ollwng yr un a geision nhw yn rhydd, sef yr un oedd wedi ei daflu i garchar am derfysg a llofruddiaeth, a rhoddi’r Iesu iddyn nhw i wneud fel y mynnen nhw ag ef.
26Ac fel yr arweinid ef ymaith, fe gawson afael ar Simon o Gyrene, ar ei ffordd o’r wlad, a rhoi’r groes ar ei ysgwyddau iddo ei chludo ar ôl yr Iesu.
Ar y ffordd i Galfaria
27Dilynid ef gan dyrfa fawr, yn cynnwys gwragedd yn galaru ac wylo drosto. 28Ond troes yr Iesu atyn nhw, gan ddweud, “Ferched Jerwsalem, peidiwch ag wylo o’m hachos i, ond o’ch herwydd eich hunain a’ch plant. 29Mae dyddiau yn dod pan ddywed pobl, ‘Gwyn eu byd y rhai amhlantadwy, y corff na chludodd blentyn, a’r bronnau na roesan sugn.’ 30Yna y dechreuan nhw alw ar y mynyddoedd, ‘Syrthiwch arnom,’ ac ar y bryniau, ‘Cuddiwch ni.’ 31Os dyma a wna dynion i bren iraidd, beth a wnân nhw i’r pren crin?”
32Roedd dau droseddwr arall hefyd yn cael eu harwain gydag ef, i’w lladd.
Y Croeshoeliad
33Pan ddaethon nhw i’r lle a elwid Penglog, hoeliwyd ef ar y groes, a’r ddau droseddwr hefyd, y naill ar y dde a’r llall ar y chwith. 34A gweddïodd yr Iesu: “Fy Nhad, maddau iddyn nhw, canys ni wyddan beth maen nhw’n ei wneud.”
Yna dyna nhw’n rhannu ei ddillad rhyngddyn nhw drwy fwrw coelbren. 35Syllai’r bobl, ac meddai’r penaethiaid yn ddirmygus, “Achubodd eraill; gwell iddo achub ei hun yn awr, os ef yw’r Meseia a ddewisodd Duw!”
36Gwatwarodd y milwyr nhwythau ef, gan ddod ato a chynnig iddo win sur, 37a dweud, “Os ti yw Brenin yr Iddewon, achub dy hun!”
38Roedd uwch ei ben y geiriau hyn, “HWN YW BRENIN YR IDDEWON!”
39Dyma un o’r troseddwyr oedd yn hongian gydag ef yn ei gablu, gan ddweud, “Onid ti yw’r Meseia? Achub dy hun a ninnau!”
40Ond atebodd y llall ef gan ei geryddu, “Does arnat ti ddim hyd yn oed ofn Duw,” meddai, “a thithau o dan yr un ddedfryd? 41A dyw hyn ddim ond teg yn ein hachos ni — fe gawsom yr hyn a haeddwn. Ond ni wnaeth y dyn hwn un dim o’i le.”
42Ac wrth yr Iesu, meddai ef, “Cofia fi pan ddeui di i’th Deyrnas.”
43Ateb yr Iesu oedd, “Cred di fi, heddiw byddi gyda mi ym Mharadwys.”
44Bellach, roedd tua chanol dydd, ond daeth tywyllwch dros yr holl wlad hyd dri y prynhawn. 45Tywyllodd yr haul, a rhwygwyd llen y Deml yn ei chanol. 46A rhoes yr Iesu lef uchel, gan ddweud, “Fy Nhad, rydw i’n ymddiried f’ysbryd i’th ddwylo.”
Wedi dweud hyn, tynnodd ei anadl olaf. 47Pan welodd y canwriad hyn, rhoddodd foliant i Dduw, ac meddai, “Yn wir roedd y dyn hwn yn ddi-euog.”
48A’r holl dyrfa a oedd wedi ymgasglu, wedi iddynt weld y fath olygfa, dyma ddychwel mewn tristwch mawr. 49Ond daliai’r rhai oedd yn ei adnabod a’r gwragedd a’i dilynodd o Galilea i sefyll o bell, yn gwylio’r cyfan.
Joseff o Arimathea yn claddu corff yr Iesu
50Roedd dyn da a chyfiawn o’r enw Joseff yn aelod o’r Cyngor Iddewig, 51a doedd e ddim wedi cytuno â’u cynllun na’u penderfyniad. Deuai o ddinas Iddewig Arimathea, ac roedd yn un o’r rhai oedd yn disgwyl teyrnasiad Duw. 52Aeth at Beilat gan ofyn am gorff yr Iesu. 53Tynnodd ef i lawr, a’i rwymo mewn lliain main, a’i osod mewn bedd yn y graig, un nad oedd wedi ei ddefnyddio cyn hynny. 54Roedd yn ddydd Gwener, a’u Dydd Gorffwys ar ddechrau. 55Dyma’r gwragedd a ddaeth gyda’r Iesu o Galilea yn dilyn Joseff, gan sylwi lle roedd y bedd, a pha fodd y dodwyd y corff. 56Yna dychwelyd i baratoi peraroglau ac ennaint.
Fe orffwysason nhw ar y Dydd Gorffwys mewn ufudd-dod i’r gorchymyn.
Dewis Presennol:
Luc 23: FfN
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 1971
© British and Foreign Bible Society 1971