Luc 7
7
Ffydd fawr uwch-swyddog Rhufeinig yng Nghrist
1Wedi i’r Iesu orffen dweud y pethau hyn wrth y bobl, daeth i Gapernaum. 2Yno, roedd gwas i gapten yn y Fyddin Rufeinig yn wael, ymron marw, ac roedd gan ei feistr feddwl mawr ohono. 3A phan glywodd hwnnw am yr Iesu, anfonodd ato rai o henuriaid yr Iddewon i erfyn arno ddod i iacháu ei was. 4Dyma nhw’n dod at yr Iesu, gan erfyn yn daer, a dweud, “Y mae’n haeddu’r ffafr hon, 5oherwydd y mae’n caru ein cenedl ni, ac wedi codi synagog inni ei hun.”
6Aeth yr Iesu i’w canlyn. Pan oedd heb fod ymhell o’r tŷ, daeth rhai o gyfeillion y canwriad â neges oddi wrtho i’r Iesu.
“Syr, does dim angen trafferthu fel hyn. Dydw i ddim yn ddigon da i ti ddod i’m tŷ; 7dyna pam na ddeuthum atat fy hun. Dywed y gair, ac fe iacheir fy ngwas. 8Dyn dan awdurdod ydw innau hefyd; mae gennyf filwyr danaf. Fe ddywedaf wrth un, ‘Dos,’ ac mae e’n mynd, ac wrth un arall, ‘Tyrd,’ ac fe ddaw, ac wrth fy ngwas, ‘Gwna hyn,’ ac mae’n ei wneud.”
9Pan glywodd Iesu hyn, rhyfeddodd ato, a chan droi meddai wrth y dyrfa a’i dilynai, “Credwch chi fi, ni chefais i ffydd fel hyn, naddo, gan neb yn Israel.”
10A phan ddaeth y negeseuwyr yn ôl i’r tŷ, roedd y gwas yn holliach.
Atgyfodi mab y weddw o Nain
11Yn fuan wedi hynny, aeth Iesu i dref o’r enw Nain, a’i ddisgyblion a thyrfa fawr gydag ef. 12Wrth iddyn nhw agosáu at borth y dref, digwyddai fod corff marw unig fab gwraig weddw yn cael ei gludo allan i’w gladdu. Ac roedd tyrfa o drigolion y dref gyda hi. 13Pan welodd yr Arglwydd Iesu hi, fe deimlodd i’r byw drosti, ac meddai, “Paid ag wylo.”
Gan gamu ymlaen, cyffyrddodd â’r elor, a safodd y cludwyr. Meddai, 14“Ŵr ifanc, deffro!”
15Yna cododd y llanc marw ar ei eistedd, a dechrau siarad. A rhoes ef yn ôl i’w fam. 16Syrthiodd rhyw arswyd ar bawb, a dyna nhw’n rhoi moliant i Dduw, gan ddweud, “Fe gododd proffwyd mawr yn ein plith,” ac eilwaith, “Daeth Duw i ymweld â’i bobl.”
17Ac aeth hanes yr hyn a wnaeth drwy Jwdea a’r holl wlad oddi amgylch.
Penbleth Ioan Fedyddiwr
18Adroddodd disgyblion Ioan yr holl hanes wrtho yntau. Galwodd yntau ddau ohonyn nhw 19a’u hanfon at yr Arglwydd i ofyn, “Ai ti yw’r Un a oedd i ddod, neu a ydym ni i ddisgwyl rhywun arall?”
20Pan ddaeth y dynion ato, medden nhw, “Ioan Fedyddiwr a’n hanfonodd i ofyn ai ti yw’r Un a oedd i ddod, neu a ydym ni i ddisgwyl rhywun arall?”
21Roedd yr Iesu ar y pryd yn iacháu llawer oddi wrth glefydau, anhwylderau ac ysbrydion drwg, ac yn adfer eu golwg i lawer o’r deillion. 22Atebiad yr Iesu iddyn nhw oedd: “Ewch a dywedwch wrth Ioan beth a welsoch ac a glywsoch; mae’r deillion yn gweld; y cloffion yn cerdded, y gwahangleifion yn cael eu gwella, y rhai byddar yn clywed, y meirw’n dod yn fyw, y tlodion yn cael clywed y Newyddion Da. 23A dedwydd yw’r dyn nad yw’n fy nghael yn faen tramgwydd.”
Barn yr Iesu am Ioan
24Wedi i negeseuwyr Ioan fynd yn ôl ato, dechreuodd yr Iesu siarad â’r dyrfa am Ioan.
“Beth a obeithiech ei weld wrth fynd i’r anialwch? Corsen yn cael ei siglo gan wynt? Na? 25Beth felly yr aethoch allan i’w weld? Dyn mewn dillad esmwyth? Ond y mae dynion y gwisgoedd drud a’r moethau yn byw mewn plasau. 26Ond i weld beth yr aethoch chi allan? Proffwyd? Ie’n wir, a llawer mwy na phroffwyd. 27Dyma’r un y dywed yr Ysgrythur amdano,
‘Dyma fy negesydd, yr hwn a anfonaf o’th flaen di,
Ac fe baratoa dy ffordd o’th flaen.’
28Credwch fi, ni anwyd neb erioed mwy nag Ioan, ac eto mae’r lleiaf yn nheyrnas Dduw yn fwy nag ef.”
29Ac wedi ei wrando, tystiodd y casglwyr trethi a phawb fod Duw yn gyfiawn, gan dderbyn bedydd Ioan. 30Ond drwy wrthod bedydd Ioan, gwrthododd y Phariseaid ac athrawon y Gyfraith fwriad Duw ar eu cyfer.
31“I beth, felly,” gofynnodd Iesu, “y mae dynion yr oes hon yn debyg? 32Tebyg i blant yn y sgwâr yn gweiddi ar ei gilydd, ‘Canasom y pibau a chithau’n gwrthod dawnsio; canasom ganiadau trist a chithau’n gwrthod wylo.’ 33Dyna Ioan Fedyddiwr yn dod heb fwyta na chyffwrdd â gwin, a’r hyn a ddywedwch amdano yw, ‘Mae’r cythraul yn hwn.’ 34Dyma Fab y Dyn yn dod yn bwyta ac yn yfed, ac meddech chi: ‘Welwch chi hwn? yn bwyta ac yn yfed, ffrind casglwyr trethi a throseddwyr!’ 35Ond profwyd doethineb yn iawn drwy ei gweithredoedd.”
Maddau i’r wraig bechadurus
36Yna gwahoddwyd ef i ginio yn nhŷ un o’r Phariseaid, ac fe aeth, gan eistedd wrth y bwrdd. 37Yn y dref honno, roedd gwraig a adwaenid gan bawb fel un anfoesol. Pan glywodd fod Iesu yn bwyta yn nhŷ’r Pharisead, daeth â photel alabastr o beraroglau yno, 38a chan sefyll y tu ôl wrth ei draed ef ac wylo, dechreuodd wlychu ei draed ef â’i dagrau a’u sychu â gwallt ei phen, yna’u cusanu, a’u hiro â’r peraroglau. 39Pan welodd y Pharisead a’i gwahoddodd hyn, meddai wrtho’i hun, ‘Petai’n broffwyd mewn gwirionedd, byddai’n gwybod sut un yw hon sydd yn cyffwrdd ag ef, gan ei bod hi’n wraig anfoesol.’ 40Atebodd yr Iesu ef, “Clyw, Simon, mae arnaf eisiau dweud rhywbeth wrthyt.”
“Ar bob cyfrif, Athro,” meddai yntau.
41“Un tro, roedd dau ddyn mewn dyled i’r un benthyciwr arian; roedd dyled un yn hanner canpunt, a dyled y llall yn bumpunt. 42Gan na allai’r naill na’r llall dalu dim, maddeuodd eu dyled i’r ddau. Dywed yn awr, pa un o’r ddau sydd â mwyaf o gariad ato?”
43Ac meddai Simon, “Mae’n siŵr gen i mai’r un y maddeuwyd y ddyled fwyaf iddo.”
“Debyg iawn yn wir!” meddai yntau. 44Yna, gan droi at y wraig, meddai wrth Simon, “Weli di’r wraig hon? Pan ddeuthum i mewn yma, ni ofelaist am ddŵr i olchi fy nhraed. Ond fe wlychodd hi fy nhraed â’i dagrau, a’u sychu â’i gwallt. 45Ni roddaist gusan imi, ond nid yw hi wedi peidio â chusanu fy nhraed o’r amser y daeth i mewn. 46Ni roddaist ti chwaith olew ar fy mhen, ond tywalltodd hi beraroglau dros fy nhraed. 47Dyna pam y dywedaf wrthyt fod ei chariad angerddol yn profi bod ei phechodau niferus wedi eu maddau. Lle na bu ond ychydig faddau, does fawr o gariad.”
48Ac fe ddywedodd wrthi, “Mae dy bechodau di wedi eu maddau.”
49A dechreuodd y gwahoddedigion eraill ddweud yn eu plith eu hunain, “Pwy yw hwn, sydd hyd yn oed yn gallu maddau pechodau?”
50Ond ebe’r Iesu wrth y wraig, “Dy ffydd a’th achubodd. Dos mewn heddwch.”
Dewis Presennol:
Luc 7: FfN
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
![None](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapistaging.com%2F58%2Fhttps%3A%2F%2Fweb-assets.youversion.com%2Fapp-icons%2Fcy.png&w=128&q=75)
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 1971
© British and Foreign Bible Society 1971

:
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
![None](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapistaging.com%2F58%2Fhttps%3A%2F%2Fweb-assets.youversion.com%2Fapp-icons%2Fen.png&w=128&q=75)