Mathew 19
19
Pwysigrwydd priodas
1Wedi i Iesu orffen siarad am y pethau hyn, fe adawodd Galilea a mynd i’r rhan honno o Jwdea sy dros yr Iorddonen. 2Roedd tyrfaoedd mawrion yn ei ddilyn ef, ac yntau’n eu hiacháu nhw yno.
3Yna daeth Phariseaid ato i roi prawf arno drwy ofyn, “Ydy hi’n gyfreithlon i ddyn ysgaru’i wraig am bob rhyw reswm?”
4Meddai yntau, “Ydych chi ddim wedi darllen fod y Crewr wedi eu gwneud o’r dechrau yn wryw a benyw?” 5Ac fe aeth ymlaen, “Oblegid hyn y gedy dyn ei dad a’i fam, ac uno â’i wraig; a bydd y ddau yn un cnawd. 6Felly nid dau berson ar wahân ydyn nhw mwyach ond un. Na wahaned dyn, felly, yr hyn a wnaeth Duw yn un.”
7“Pam ynteu,” medden nhw, “y gorchmynnodd Moses roi llythyr ysgariad i’r wraig a gadael iddi fynd?”
8Atebodd yntau, “Am eich bod mor anodd i’ch dysgu y caniataodd Moses ichi ysgaru’ch gwragedd; ond nid felly roedd hi o’r cychwyn cyntaf. 9Dyma ddywedaf fi wrthych: fod y sawl sy’n ysgaru’i wraig am unrhyw reswm ond ei godineb hi, ac yn priodi un arall, yn godinebu ei hun.”
10“Os felly y mae hi rhwng gŵr a gwraig,” meddai’r disgyblion wrtho, “mae’n well peidio â phriodi.”
11Atebodd ef, “Ni all pawb dderbyn hyn, dim ond y sawl sy wedi eu galw i hynny. 12Mae rhai wedi’u geni’n analluog i briodi, rhai wedi’u gwneud yn analluog gan eu cyd-ddynion, eraill wedi gwneud eu hunain felly er mwyn teyrnas nefoedd. Yr hwn a all dderbyn hyn, derbynied.”
Croeso i’r plant
13Ac fe ddaethon nhw â phlant ato, er mwyn iddo roi ei ddwylo arnyn nhw a gweddïo. Fe geryddodd y disgyblion nhw, 14ond meddai Iesu, “Gadewch i’r plant ddod ataf fi, a pheidiwch â’u rhwystro; rhai fel hyn biau teyrnas Nefoedd.”
15Yna fe roes ei ddwylo arnyn nhw ac ymlaen ag ef ar ei daith.
Golud — bydol a nefol
16A dyma un ato a gofyn, “Athro, pa ddaioni sy’n rhaid imi ei wneud i gael bywyd tragwyddol?”
17“Daioni?” meddai Iesu. “Pam rwyt ti’n fy holi i am hynny? Un yn unig sy’n dda. Ond os wyt ti am fynd i mewn i’r bywyd, cadw’r gorchmynion.”
18“Pa rai?” gofynnodd yntau.
Atebodd yntau, “Na ladd; na wna odineb; na ladrata; na ddwg gamdystiolaeth; 19parcha dy dad a’th fam; câr dy gyd-ddyn fel ti dy hun.”
20“Ond rydw i wedi cadw’r rheiny i gyd,” ebe’r dyn ifanc. “Beth sydd ar ôl eto yn fy mywyd i?”
21Meddai Iesu wrtho: “Os wyt ti am fod yn berffaith, dos, gwerth dy eiddo, rho’r arian i’r tlodion, ac fe gei drysor yn y nefoedd; wedyn, tyrd a dilyn fi.”
22Pan glywodd y gŵr ifanc hyn, fe aeth i ffwrdd yn drist; oherwydd roedd yn ŵr a chanddo gyfoeth mawr.
23Ac meddai Iesu wrth ei ddisgyblion, “Credwch fi: fe gaiff dyn cyfoethog hi’n anodd iawn i fynd i mewn i deyrnas Nefoedd. 24Ie, mi ddywedaf eto: mae’n haws i gamel fynd drwy grau nodwydd nag i ddyn cyfoethog fynd i deyrnas Dduw.”
25Synnodd y disgyblion yn fawr wrth glywed hyn, ac medden nhw, “Os felly, pwy all gael ei achub?”
26Edrychodd Iesu arnyn nhw, ac atebodd, “I ddynion mae hyn yn amhosibl: ond mae popeth yn bosibl i Dduw.”
27Ar hyn, meddai Pedr, “Dyma ni wedi gadael popeth er mwyn dy ddilyn di. Beth amdanom ni?”
28“Credwch fi,” meddai Iesu, “yn y byd a ddaw, pan fydd Mab y Dyn yn eistedd mewn gogoniant yn yr Oes Newydd, fe gewch chithau sy wedi ’nilyn i eistedd ar ddeuddeg gorsedd i fod yn farnwyr ar ddeuddeg llwyth Israel. 29Pob un sy wedi gadael brodyr neu chwiorydd neu dad, neu fam, neu blant, neu dir neu dai er mwyn f’enw i, fe gaiff ganwaith cymaint, ac fe gaiff fywyd tragwyddol. 30Ond fe fydd llawer o’r rhai cyntaf yn olaf, a’r rhai olaf yn flaenaf.”
Dewis Presennol:
Mathew 19: FfN
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 1971
© British and Foreign Bible Society 1971

: