S. Luc 9
9
1Ac wedi galw y deuddeg ynghyd, rhoddes iddynt allu ac awdurdod ar yr holl gythreuliaid, ac i iachau clefydau; 2a danfonodd hwynt i bregethu teyrnas Dduw, ac i iachau y cleifion: a dywedodd wrthynt, 3Na chymmerwch ddim i’r daith, na ffon, nac ysgrepan, na bara, nac arian, ac na fyddwch a dwy bais genych. 4Ac i ba dŷ bynnag yr eloch i mewn, yno arhoswch, ac oddi yno ewch allan. 5A chynnifer ag na’ch derbyniant, wrth fyned allan o’r ddinas honno, y llwch ysgydwch ymaith oddiwrth eich traed, yn dystiolaeth yn eu herbyn. 6A chan fyned allan yr aethant trwy’r pentrefi, gan efengylu ac iachau ym mhob lle.
7A chlywodd Herod y Tetrarch yr holl bethau a ddigwyddent, a phetrusai o herwydd y dywedid gan rai, Ioan a gyfododd o feirw; 8a chan rai, Elias a ymddangosodd; a chan eraill, Prophwyd, un o’r rhai gynt, a adgyfododd. 9A dywedodd Herod, Ioan, myfi a dorrais ei ben; ond pwy yw hwn, am yr hwn y clywaf y fath bethau? A cheisiai ei weled Ef.
10Ac wedi dychwelyd, yr apostolion a fynegasant Iddo faint o bethau a wnaethent. Ac wedi eu cymmeryd Atto, ciliodd o’r neilldu i ddinas a elwir Bethtsaida. 11A’r torfeydd, gan wybod hyn, a’i canlynasant Ef; ac wedi eu derbyn, llefarodd wrthynt am deyrnas Dduw; ac y rhai ag arnynt eisiau eu hiachau, a iachaodd Efe. 12A’r dydd a ddechreuodd hwyrhau; ac wedi dyfod Atto, y deuddeg a ddywedasant Wrtho, Gollwng ymaith y dyrfa, fel wedi myned i’r pentrefi oddi amgylch, ac i’r wlad, y llettyont ac y caffont fwyd, canys yma, mewn lle anial yr ydym. 13A dywedodd Efe wrthynt, Rhoddwch chwi iddynt beth i’w fwytta. A hwy a ddywedasant, Nid oes genym fwy na phum torth a dau bysgodyn, onid awn ni a phrynu bwyd i’r holl bobl hyn, 14canys yr oeddynt ynghylch pum mil o wŷr. A dywedodd wrth Ei ddisgyblion, Gwnewch iddynt led-orwedd yn finteioedd o ynghylch deg a deugain bob un. 15A gwnaethant felly, a pharasant iddynt oll led-orwedd. 16Ac wedi cymmeryd y pum torth a’r ddau bysgodyn, gan edrych i fynu i’r nef bendithiodd hwynt, a thorrodd, a rhoddodd i’w ddisgyblion i osod ger bron y dyrfa. 17A bwyttasant, a digonwyd hwy oll; a chymmerwyd i fynu yr hyn oedd dros ben iddynt o friw-fwyd, ddeuddeg basgedaid.
18A bu pan yr oedd Efe yn gweddïo o’r neilldu, yr oedd Ei ddisgyblion gydag Ef; a gofynodd iddynt, gan ddywedyd, Pwy y dywaid y torfeydd Fy mod I? 19A hwy, gan atteb, a ddywedasant, Ioan Fedyddiwr; ac eraill, Elias; ac eraill, mai prophwyd, un o’r rhai gynt, a adgyfododd. 20A dywedodd Efe wrthynt, A chwychwi, pwy y dywedwch Fy mod I? A chan atteb, Petr a ddywedodd, Crist Duw. 21Ac Efe, gan ddwrdio, a orchymynodd iddynt na ddywedent hyn i neb, 22gan ddywedyd, Y mae rhaid i Fab y Dyn ddioddef llawer, a’i wrthod gan yr henuriaid a’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion, ac Ei ladd, ac ar y trydydd dydd adgyfodi. 23A dywedodd wrth bawb, Os yw neb yn ewyllysio dyfod ar Fy ol, ymwaded ag ef ei hun, a chyfoded ei groes beunydd, a chanlyned Fi; 24canys pwy bynnag a ewyllysio gadw ei einioes, a’i cyll; ond pwy bynnag a gollo ei einioes o’m hachos I, hwnw a’i ceidw. 25Canys pa beth y lleseir dyn wedi ennill y byd oll, ond a chydag ef ei hun wedi myned ar goll neu yn ddirwy?
26Canys pwy bynnag fo ag arno gywilydd o Myfi a’m geiriau,
O hono ef y bydd gan Fab y Dyn gywilydd
Pan ddelo yn Ei ogoniant Ei hun
Ac yngogoniant y Tad a’r sanctaidd angylion.
27A dywedaf wrthych yn wir, Y mae rhai o’r sawl sy’n sefyll yma, y rhai nid archwaethant mo angau nes gweled o honynt deyrnas Dduw.
28A bu, ar ol y geiriau hyn, ynghylch wyth niwrnod wedi’n, wedi cymmeryd Atto Petr ac Ioan ac Iago, yr aeth i fynu i’r mynydd i weddïo. 29Ac wrth weddïo o Hono yr aeth gwedd Ei wyneb yn arall, ac Ei wisg yn wen-felltenaidd. 30Ac wele, dau ŵr a gydymddiddanent ag Ef, y rhai oeddynt Mosheh ac Elias; 31y rhai gan ymddangos mewn gogoniant, a lefarent am Ei ymadawiad yr hwn yr oedd Efe ar fedr ei gyflawni yn Ierwshalem. 32A Petr a’r rhai gydag ef oeddynt wedi eu trymhau gan gwsg; ond wedi dihuno gwelsant Ei ogoniant a’r ddau ŵr a oedd yn sefyll gydag Ef. 33A bu, wrth ymddidoli o honynt oddiwrtho Ef, dywedodd Petr wrth yr Iesu, Athraw, ardderchog yw bod o honom yma; a gwnawn dair pabell, un i Ti; ac i Mosheh un; ac un i Elias, heb wybod pa beth a ddywedodd. 34Ac efe yn dywedyd y geiriau hyn, bu cwmmwl a chysgododd hwynt; a dychrynwyd hwy wrth fyned o honynt i mewn i’r cwmmwl; 35a llais fu o’r cwmmwl yn dywedyd,
Hwn yw Fy Mab dewisedig; arno Ef gwrandewch.
36Ac wedi bod y llais, cafwyd yr Iesu ar Ei ben Ei hun. A hwy a dawsant, ac wrth neb ni fynegasant, yn y dyddiau hyny, ddim o’r pethau a welsant.
37A bu drannoeth, wedi dyfod o honynt i wared o’r mynydd, y cyfarfu ag Ef dyrfa fawr. 38Ac wele, gŵr, o’r dyrfa, a ddolefodd gan ddywedyd, Athraw, attolygaf i Ti edrych ar fy mab, canys unig-anedig yw i mi; 39ac wele, yspryd a’i cymmer ef, ac yn ddisymmwth y gwaedda: a dryllio ef y mae ynghyda bwrw ewyn; a braidd y cilia oddiwrtho ar ol ei ysigo ef. 40Ac attolygais i’th ddisgyblion ei fwrw ef allan, ond ni allasant. 41A chan atteb, yr Iesu a ddywedodd, O genhedlaeth ddi-ffydd a throfaus, hyd ba bryd y byddaf gyda chwi, ac y’ch goddefaf? Tyred yma â’th fab. 42Ac efe etto yn dyfod, rhwygodd y cythraul ef, ac y’i drylliodd. A dwrdiodd yr Iesu yr yspryd aflan; ac iachaodd y bachgen, a rhoddes ef i’w dad. 43A bu aruthr gan bawb o herwydd mawredd Duw.
Ac a phawb yn rhyfeddu am yr holl bethau a wnaeth Efe, 44dywedodd wrth Ei ddisgyblion, Gosodwch chwi yn eich clustiau y geiriau hyn, Y mae Mab y Dyn ar fedr Ei draddodi i ddwylaw dynion. 45A hwy ni wybuant yr ymadrodd hwn, ac yn orchuddiedig oedd oddi wrthynt, fel na ddeallent ef; ac ofnasant ofyn Iddo am yr ymadrodd hwn.
46A daeth ymresymmiad yn eu plith, pwy a fyddai fwyaf o honynt. 47A’r Iesu, gan weled ymresymmiad eu calon, wedi cymmeryd bachgenyn, a’i gosododd ef yn Ei ymyl, 48a dywedodd wrthynt, Pwy bynnag a dderbynio y bachgenyn hwn yn Fy enw, Myfi a dderbyn efe; a phwy bynnag a’m derbynio I, derbyn y mae yr Hwn a’m danfonodd; canys yr hwn sydd leiaf yn eich plith chwi oll, efe sydd fawr.
49A chan atteb, Ioan a ddywedodd, O Feistr, gwelsom ryw un oedd yn Dy enw Di yn bwrw allan gythreuliaid, a rhwystrasom ef, gan nad yw yn canlyn gyda ni. 50Ac wrtho y dywedodd yr Iesu, Na rwystrwch, canys y neb nad yw i’ch erbyn, trosoch y mae.
51A bu wrth gyflawni dyddiau Ei gymmeryd i fynu, 52ac Efe a gadarn-osododd Ei wyneb i fyned i Ierwshalem, a danfonodd genhadau o flaen Ei wyneb; ac wedi myned o honynt, aethant i mewn i bentref o Shamariaid, i barottoi Iddo. 53Ac ni dderbyniasant Ef, gan fod Ei wyneb ar fyned i Ierwshalem. 54A chan weled hyn, Ei ddisgyblion Iago ac Ioan a ddywedasant, Arglwydd, a ewyllysi Di ddywedyd o honom am i dân ddyfod i lawr o’r nef a’u difa hwynt? 55Ac wedi troi, dwrdiodd hwynt: 56ac aethant i bentref arall.
57Ac wrth fyned o honynt, ar y ffordd y dywedodd rhywun Wrtho, Canlynaf Di i ba le bynnag yr elych. 58Ac wrtho y dywedodd yr Iesu, Y llwynogod sydd a ffauau ganddynt, ac ehediaid y nef a llettyau ganddynt; ond gan Fab y Dyn nid oes lle y rhoddo Ei ben i lawr. 59A dywedodd wrth un arall, Canlyn Fi. Ac efe a ddywedodd, Arglwydd, gad i mi, wedi myned ymaith, 60yn gyntaf gladdu fy nhad: a dywedodd wrtho, Gad i’r meirwon gladdu eu meirw eu hun; a thydi wedi myned ymaith, cyhoedda deyrnas Dduw. 61A dywedodd un arall hefyd, Canlynaf Di, Arglwydd; ond yn gyntaf, caniatta i mi ganu yn iach i’r rhai sydd gartref: 62ac wrtho y dywedodd yr Iesu, Nid oes neb wedi rhoi ei law ar yr aradr ac yn edrych yn ei ol, yn gymmwys i deyrnas Dduw.
Dewis Presennol:
S. Luc 9: CTB
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
![None](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapistaging.com%2F58%2Fhttps%3A%2F%2Fweb-assets.youversion.com%2Fapp-icons%2Fcy.png&w=128&q=75)
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Cyfieithiad Briscoe 1894. Cynhyrchwyd y casgliad digidol hwn gan Gymdeithas y Beibl yn 2020-21.

:
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
![None](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapistaging.com%2F58%2Fhttps%3A%2F%2Fweb-assets.youversion.com%2Fapp-icons%2Fen.png&w=128&q=75)