1 Cronicl 22
22
1A dywedodd Dafydd, Hwn yw tŷ yr Arglwydd Dduw, a dyma allor y poethoffrwm i Israel. 2Dywedodd Dafydd hefyd am gasglu y dieithriaid oedd yn nhir Israel; ac efe a osododd seiri meini i naddu cerrig nadd, i adeiladu tŷ Dduw. 3A pharatôdd Dafydd haearn yn helaeth, tuag at hoelion drysau y pyrth, ac i’r cysylltiadau, a phres mor helaeth ag nad oedd arno bwys; 4Coed cedr hefyd allan o rif: canys y Sidoniaid a’r Tyriaid a ddygent gedrwydd lawer i Dafydd. 5A dywedodd Dafydd, Solomon fy mab sydd ieuanc a thyner, a’r tŷ a adeiledir i’r Arglwydd, rhaid iddo fod mewn mawredd, mewn rhagoriaeth, mewn enw, ac mewn gogoniant, trwy yr holl wledydd: paratoaf yn awr tuag ato ef. Felly y paratôdd Dafydd yn helaeth cyn ei farwolaeth.
6Ac efe a alwodd ar Solomon ei fab, ac a orchmynnodd iddo adeiladu tŷ i Arglwydd Dduw Israel. 7Dywedodd Dafydd hefyd wrth Solomon, Fy mab, yr oedd yn fy mryd i adeiladu tŷ i enw yr Arglwydd fy Nuw. 8Eithr gair yr Arglwydd a ddaeth ataf fi, gan ddywedyd, Gwaed lawer a dywelltaist ti, a rhyfeloedd mawrion a wnaethost ti: nid adeiledi di dŷ i’m henw i, canys gwaed lawer a dywelltaist ar y ddaear yn fy ngŵydd i. 9Wele, mab a enir i ti, efe a fydd ŵr llonydd, a mi a roddaf lonyddwch iddo ef gan ei holl elynion o amgylch: canys Solomon fydd ei enw ef, heddwch hefyd a thangnefedd a roddaf i Israel yn ei ddyddiau ef. 10Efe a adeilada dŷ i’m henw, ac efe a fydd i mi yn fab, a minnau yn dad iddo yntau: sicrhaf hefyd orseddfa ei frenhiniaeth ef ar Israel byth. 11Yn awr fy mab, yr Arglwydd fyddo gyda thi, a ffynna dithau, ac adeilada dŷ yr Arglwydd dy Dduw, megis ag y llefarodd efe amdanat ti. 12Yn unig rhodded yr Arglwydd i ti ddoethineb, a deall, a rhodded i ti orchmynion am Israel, fel y cadwech gyfraith yr Arglwydd dy Dduw. 13Yna y ffynni, os gwyli ar wneuthur y deddfau a’r barnedigaethau a orchmynnodd yr Arglwydd i Moses am Israel. Ymgryfha, ac ymwrola; nac ofna, ac nac arswyda. 14Ac wele, yn fy nhlodi y paratoais i dŷ yr Arglwydd gan mil o dalentau aur, a mil o filoedd o dalentau arian; ar bres hefyd, ac ar haearn, nid oes bwys; canys y mae yn helaeth: coed hefyd a meini a baratoais i; ychwanega dithau atynt hwy. 15Hefyd y mae yn aml gyda thi weithwyr gwaith, sef cymynwyr, a seiri maen a phren, a phob rhai celfydd ym mhob gwaith. 16Ar aur, ar arian, ar bres, ac ar haearn, nid oes rifedi. Cyfod dithau, a gweithia, a’r Arglwydd a fydd gyda thi.
17A Dafydd a orchmynnodd i holl dywysogion Israel gynorthwyo Solomon ei fab, gan ddywedyd, 18Onid yw yr Arglwydd eich Duw gyda chwi? ac oni roddes efe lonyddwch i chwi oddi amgylch? canys rhoddes yn fy llaw i drigolion y tir; a’r tir a ddarostyngwyd o flaen yr Arglwydd, ac o flaen ei bobl ef. 19Yn awr rhoddwch eich calon a’ch enaid i geisio yr Arglwydd eich Duw; cyfodwch hefyd, ac adeiledwch gysegr yr Arglwydd Dduw, i ddwyn arch cyfamod yr Arglwydd, a sanctaidd lestri Duw, i’r tŷ a adeiledir i enw yr Arglwydd.
Dewis Presennol:
1 Cronicl 22: BWM
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.

: