2 Cronicl 17
17
1A Jehosaffat ei fab a deyrnasodd yn ei le ef, ac a ymgryfhaodd yn erbyn Israel. 2Ac efe a roddodd fyddinoedd ym mhob un o gaerog ddinasoedd Jwda, ac a roddes raglawiaid yng ngwlad Jwda, ac yn ninasoedd Effraim, y rhai a enillasai Asa ei dad ef. 3A’r Arglwydd a fu gyda Jehosaffat, oherwydd iddo rodio yn ffyrdd cyntaf Dafydd ei dad, ac nad ymofynnodd â Baalim: 4Eithr Duw ei dad a geisiodd efe, ac yn ei orchmynion ef y rhodiodd, ac nid yn ôl gweithredoedd Israel. 5Am hynny yr Arglwydd a sicrhaodd y frenhiniaeth yn ei law ef; a holl Jwda a roddasant anrhegion i Jehosaffat; ac yr ydoedd iddo olud ac anrhydedd yn helaeth. 6Ac efe a ddyrchafodd ei galon yn ffyrdd yr Arglwydd: ac efe a fwriodd hefyd yr uchelfeydd a’r llwyni allan o Jwda.
7Hefyd yn y drydedd flwyddyn o’i deyrnasiad, efe a anfonodd at ei dywysogion, sef Benhail, ac Obadeia, a Sechareia, a Nethaneel, a Michaia, i ddysgu yn ninasoedd Jwda. 8A chyda hwynt yr anfonodd efe Lefiaid, Semaia, a Nethaneia, a Sebadeia, ac Asahel, a Semiramoth a Jehonathan, ac Adoneia, a Thobeia, a Thob Adoneia, y Lefiaid; a chyda hwynt Elisama, a Jehoram, yr offeiriaid. 9A hwy a ddysgasant yn Jwda, a chyda hwynt yr oedd llyfr cyfraith yr Arglwydd: felly yr amgylchasant hwy holl ddinasoedd Jwda, ac y dysgasant y bobl.
10Ac arswyd yr Arglwydd oedd ar holl deyrnasoedd y gwledydd oedd o amgylch Jwda, fel nad ymladdasant hwy yn erbyn Jehosaffat. 11A rhai o’r Philistiaid oedd yn dwyn i Jehosaffat anrhegion, a theyrnged o arian; yr Arabiaid hefyd oedd yn dwyn iddo ef ddiadelloedd, saith mil a saith gant o hyrddod, a saith mil a saith gant o fychod.
12Felly Jehosaffat oedd yn myned rhagddo, ac yn cynyddu yn uchel; ac efe a adeiladodd yn Jwda balasau, a dinasoedd trysorau. 13A llawer o waith oedd ganddo ef yn ninasoedd Jwda; a rhyfelwyr cedyrn nerthol yn Jerwsalem. 14A dyma eu rhifedi hwynt, yn ôl tŷ eu tadau: O Jwda yn dywysogion miloedd, yr oedd Adna y pennaf, a chydag ef dri chan mil o wŷr cedyrn nerthol. 15A cher ei law ef, Jehohanan y tywysog, a chydag ef ddau cant a phedwar ugain mil. 16A cherllaw iddo ef, Amaseia mab Sichri, yr hwn o’i wirfodd a ymroddodd i’r Arglwydd; a chydag ef ddau can mil o wŷr cedyrn nerthol. 17Ac o Benjamin, yr oedd Eliada yn ŵr cadarn nerthol, a chydag ef ddau can mil yn arfogion â bwâu a tharianau. 18A cherllaw iddo ef, Jehosabad, a chydag ef gant a phedwar ugain mil yn barod i ryfel. 19Y rhai hyn oedd yn gwasanaethu y brenin, heblaw y rhai a roddasai y brenin yn y dinasoedd caerog, trwy holl Jwda.
Dewis Presennol:
2 Cronicl 17: BWM
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.

: