2 Cronicl 27
27
1Mab pum mlwydd ar hugain oedd Jotham pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac un flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem, ac enw ei fam ef oedd Jerwsa merch Sadoc. 2Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd, yn ôl yr hyn oll a wnaethai Usseia ei dad: eithr nid aeth efe i deml yr Arglwydd. A’r bobl oedd eto yn ymlygru. 3Efe a adeiladodd y porth uchaf i dŷ yr Arglwydd; ac ar fur y tŵr yr adeiladodd efe lawer. 4Dinasoedd hefyd a adeiladodd efe ym mynyddoedd Jwda, ac yn y coedydd yr adeiladodd efe balasau a thyrau.
5Ac efe a ryfelodd yn erbyn brenin meibion Ammon, ac a aeth yn drech na hwynt. A meibion Ammon a roddasant iddo ef gan talent o arian y flwyddyn honno, a deng mil corus o wenith, a deng mil corus o haidd. Hyn a roddodd meibion Ammon iddo ef yr ail flwyddyn a’r drydedd. 6Felly Jotham a aeth yn gadarn, oblegid efe a baratôdd ei ffyrdd gerbron yr Arglwydd ei Dduw.
7A’r rhan arall o hanes Jotham, a’i holl ryfeloedd ef, a’i ffyrdd, wele y maent yn ysgrifenedig yn llyfr brenhinoedd Israel a Jwda. 8Mab pum mlwydd ar hugain oedd efe pan ddechreuodd deyrnasu, ac un flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem.
9A Jotham a hunodd gyda’i dadau, a chladdasant ef yn ninas Dafydd. Ac Ahas ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
Dewis Presennol:
2 Cronicl 27: BWM
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.

: