Logo Ap Beibl
Eicon Chwilio

2 Corinthiaid 12:7-9

2 Corinthiaid 12:7-9 BWM

Ac fel na’m tra-dyrchafer gan odidowgrwydd y datguddiedigaethau, rhoddwyd i mi swmbwl yn y cnawd, cennad Satan, i’m cernodio, fel na’m tra-dyrchefid. Am y peth hwn mi a atolygais i’r Arglwydd deirgwaith, ar fod iddo ymadael â mi. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Digon i ti fy ngras i: canys fy nerth i a berffeithir mewn gwendid. Yn llawen iawn gan hynny yr ymffrostiaf fi yn hytrach yn fy ngwendid, fel y preswylio nerth Crist ynof fi.