2 Brenhinoedd 3
3
1A Jehoram mab Ahab a aeth yn frenin ar Israel yn Samaria, yn y ddeunawfed flwyddyn i Jehosaffat brenin Jwda, ac a deyrnasodd ddeuddeng mlynedd. 2Ac efe a wnaeth ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, ond nid fel ei dad nac fel ei fam: canys efe a fwriodd ymaith ddelw Baal, yr hon a wnaethai ei dad. 3Eto efe a lynodd wrth bechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu: ni chiliodd efe oddi wrthynt hwy.
4A Mesa brenin Moab oedd berchen defaid, ac a dalai i frenin Israel gan mil o ŵyn, a chan mil o hyrddod gwlanog. 5Ond wedi marw Ahab, brenin Moab a wrthryfelodd yn erbyn brenin Israel.
6A’r brenin Jehoram a aeth allan y pryd hwnnw o Samaria, ac a gyfrifodd holl Israel. 7Efe a aeth hefyd ac a anfonodd at Jehosaffat brenin Jwda, gan ddywedyd, Brenin Moab a wrthryfelodd i’m herbyn i: a ddeui di gyda mi i ryfel yn erbyn Moab? Dywedodd yntau, Mi a af i fyny; myfi a fyddaf fel tithau, fy mhobl i fel dy bobl dithau, fy meirch i fel dy feirch dithau. 8Ac efe a ddywedodd, Pa ffordd yr awn ni i fyny? Dywedodd yntau, Ffordd anialwch Edom. 9Felly yr aeth brenin Israel, a brenin Jwda, a brenin Edom; ac a aethant o amgylch ar eu taith saith niwrnod: ac nid oedd dwfr i’r fyddin, nac i’r anifeiliaid oedd yn eu canlyn hwynt. 10A brenin Israel a ddywedodd, Gwae fi! oherwydd i’r Arglwydd alw y tri brenin hyn ynghyd i’w rhoddi yn llaw Moab. 11A Jehosaffat a ddywedodd, Onid oes yma broffwyd i’r Arglwydd, fel yr ymofynnom ni â’r Arglwydd trwyddo ef? Ac un o weision brenin Israel a atebodd ac a ddywedodd, Y mae yma Eliseus mab Saffat, yr hwn a dywalltodd ddwfr ar ddwylo Eleias. 12A Jehosaffat a ddywedodd, Y mae gair yr Arglwydd gydag ef. Felly brenin Israel, a Jehosaffat, a brenin Edom, a aethant i waered ato ef. 13Ac Eliseus a ddywedodd wrth frenin Israel, Beth sydd i mi a wnelwyf â thi? dos at broffwydi dy dad, ac at broffwydi dy fam. A brenin Israel a ddywedodd wrtho, Nage: canys yr Arglwydd a alwodd y tri brenin hyn ynghyd i’w rhoddi yn llaw Moab. 14Ac Eliseus a ddywedodd, Fel mai byw Arglwydd y lluoedd, yr hwn yr ydwyf yn sefyll ger ei fron, oni bai fy mod i yn perchi wyneb Jehosaffat brenin Jwda, nid edrychaswn i arnat ti, ac ni’th welswn. 15Ond yn awr dygwch i mi gerddor. A phan ganodd y cerddor, daeth llaw yr Arglwydd arno ef. 16Ac efe a ddywedodd, Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd; Gwna y dyffryn hwn yn llawn ffosydd. 17Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd; Ni welwch wynt, ac ni welwch law; eto y dyffryn hwn a lenwir o ddwfr, fel yr yfoch chwi, a’ch anifeiliaid, a’ch ysgrubliaid. 18A pheth ysgafn yw hyn yng ngolwg yr Arglwydd: efe a ddyry Moab yn eich llaw chwi hefyd. 19A chwi a drewch bob dinas gaerog, a phob dinas ddetholedig; a phob pren teg a fwriwch chwi i lawr; yr holl ffynhonnau dyfroedd hefyd a gaewch chwi, a phob darn o dir da a ddifwynwch chwi â cherrig. 20A’r bore pan offrymwyd y bwyd-offrwm, wele ddyfroedd yn dyfod o ffordd Edom; a’r wlad a lanwyd o ddyfroedd.
21A phan glybu yr holl Foabiaid fod y brenhinoedd hynny wedi dyfod i fyny i ymladd yn eu herbyn hwynt, y galwyd ynghyd bawb a’r a allai wisgo arfau, ac uchod, a hwy a safasant ar y terfyn. 22A hwy a gyfodasant yn fore, a’r haul a gyfodasai ar y dyfroedd; a’r Moabiaid a ganfuant ar eu cyfer y dyfroedd yn goch fel gwaed: 23A hwy a ddywedasant, Gwaed yw hwn: gan ddifetha y difethwyd y brenhinoedd, a hwy a drawsant bawb ei gilydd: am hynny yn awr at yr anrhaith, Moab. 24A phan ddaethant at wersyll Israel, yr Israeliaid a gyfodasant ac a drawsant y Moabiaid, fel y ffoesant o’u blaen hwynt: a hwy a aethant rhagddynt, gan daro’r Moabiaid yn eu gwlad eu hun. 25A hwy a ddistrywiasant y dinasoedd, ac i bob darn o dir da y bwriasant bawb ei garreg, ac a’i llanwasant; a phob ffynnon ddwfr a gaeasant hwy, a phob pren da a gwympasant hwy i lawr: yn unig yn Cir-haraseth y gadawsant ei cherrig; eto y rhai oedd yn taflu a’i hamgylchynasant, ac a’i trawsant hi.
26A phan welodd brenin Moab fod y rhyfelwyr yn drech nag ef, efe a gymerth saith gant o wŷr gydag ef yn tynnu cleddyf, i ruthro ar frenin Edom: ond nis gallasant hwy. 27Yna efe a gymerodd ei fab cyntaf-anedig ef, yr hwn oedd i deyrnasu yn ei le ef, ac a’i hoffrymodd ef yn boethoffrwm ar y mur. A bu llid mawr yn erbyn Israel: a hwy a aethant ymaith oddi wrtho ef, ac a ddychwelasant i’w gwlad eu hun.
Dewis Presennol:
2 Brenhinoedd 3: BWM
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.

: