Actau’r Apostolion 3
3
1Pedr hefyd ac Ioan a aethant i fyny i’r deml ynghyd ar yr awr weddi, sef y nawfed. 2A rhyw ŵr cloff o groth ei fam a ddygid, yr hwn a ddodent beunydd wrth borth y deml, yr hwn a elwid Prydferth, i ofyn elusen gan y rhai a elai i mewn i’r deml. 3Yr hwn, pan welodd efe Pedr ac Ioan ar fedr myned i mewn i’r deml, a ddeisyfodd gael elusen. 4A Phedr yn dal sylw arno, gydag Ioan, a ddywedodd, Edrych arnom ni. 5Ac efe a ddaliodd sylw arnynt, gan obeithio cael rhywbeth ganddynt. 6Yna y dywedodd Pedr, Arian ac aur nid oes gennyf; eithr yr hyn sydd gennyf, hynny yr wyf yn ei roddi i ti: Yn enw Iesu Grist o Nasareth, cyfod a rhodia. 7A chan ei gymryd ef erbyn ei ddeheulaw, efe a’i cyfododd ef i fyny; ac yn ebrwydd ei draed ef a’i fferau a gadarnhawyd. 8A chan neidio i fyny, efe a safodd, ac a rodiodd, ac a aeth gyda hwynt i’r deml, dan rodio, a neidio, a moli Duw. 9A’r holl bobl a’i gwelodd ef yn rhodio, ac yn moli Duw. 10Ac yr oeddynt hwy yn ei adnabod, mai hwn oedd yr un a eisteddai am elusen wrth borth Prydferth y deml: a hwy a lanwyd o fraw a synedigaeth am y peth a ddigwyddasai iddo. 11Ac fel yr oedd y cloff a iachasid yn atal Pedr ac Ioan, yr holl bobl yn frawychus a gydredodd atynt i’r porth a elwir Porth Solomon.
12A phan welodd Pedr, efe a atebodd i’r bobl, Ha wŷr Israeliaid, beth a wnewch chwi yn rhyfeddu am hyn? neu beth a wnewch chwi yn dal sylw arnom ni, fel pe trwy ein nerth ein hun neu ein duwioldeb y gwnaethem i hwn rodio? 13Duw Abraham, ac Isaac, a Jacob, Duw ein tadau ni, a ogoneddodd ei Fab Iesu, yr hwn a draddodasoch chwi, ac a’i gwadasoch gerbron Peilat, pan farnodd efe ef i’w ollwng yn rhydd. 14Eithr chwi a wadasoch y Sanct a’r Cyfiawn, ac a ddeisyfasoch roddi i chwi ŵr llofruddiog; 15A Thywysog y bywyd a laddasoch, yr hwn a gododd Duw o feirw; o’r hyn yr ydym ni yn dystion. 16A’i enw ef, trwy ffydd yn ei enw ef, a nerthodd y dyn yma, a welwch ac a adwaenoch chwi: a’r ffydd yr hon sydd trwyddo ef, a roes iddo ef yr holl iechyd hwn yn eich gŵydd chwi oll. 17Ac yn awr, frodyr, mi a wn mai trwy anwybod y gwnaethoch, megis y gwnaeth eich pendefigion chwi hefyd. 18Eithr y pethau a ragfynegodd Duw trwy enau ei holl broffwydi, y dioddefai Crist, a gyflawnodd efe fel hyn.
19Edifarhewch gan hynny, a dychwelwch, fel y dileer eich pechodau, pan ddelo’r amseroedd i orffwys o olwg yr Arglwydd; 20Ac yr anfono efe Iesu Grist, yr hwn a bregethwyd o’r blaen i chwi: 21Yr hwn sydd raid i’r nef ei dderbyn, hyd amseroedd adferiad pob peth, y rhai a ddywedodd Duw trwy enau ei holl sanctaidd broffwydi erioed. 22Canys Moses a ddywedodd wrth y tadau, Yr Arglwydd eich Duw a gyfyd i chwi Broffwyd o’ch brodyr, megis myfi: arno ef y gwrandewch ym mhob peth a ddyweto wrthych. 23A bydd, pob enaid ni wrandawo ar y Proffwyd hwnnw, a lwyr ddifethir o blith y bobl. 24A’r holl broffwydi hefyd, o Samuel ac o’r rhai wedi, cynifer ag a lefarasant, a ragfynegasant hefyd am y dyddiau hyn. 25Chwychwi ydych blant y proffwydi, a’r cyfamod yr hwn a wnaeth Duw â’n tadau ni, gan ddywedyd wrth Abraham, Ac yn dy had di y bendithir holl dylwythau y ddaear. 26Duw, gwedi cyfodi ei Fab Iesu a’i hanfonodd ef i chwi yn gyntaf, gan eich bendithio chwi, trwy droi pob un ohonoch ymaith oddi wrth eich drygioni.
Dewis Presennol:
Actau’r Apostolion 3: BWM
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.

: