Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Esther 2

2
1Wedi y pethau hyn, pan lonyddodd dicllonedd y brenin Ahasferus, efe a gofiodd Fasti, a’r hyn a wnaethai hi, a’r hyn a farnasid arni. 2Am hynny gweision y brenin, y rhai oedd yn gweini iddo, a ddywedasant, Ceisier i’r brenin lancesau teg yr olwg o wyryfon: 3A gosoded y brenin swyddogion trwy holl daleithiau ei frenhiniaeth, a chasglant hwythau bob llances deg yr olwg, o wyry, i Susan y brenhinllys, i dŷ y gwragedd, dan law Hegai, ystafellydd y brenin, ceidwad y gwragedd; a rhodder iddynt bethau i’w glanhau: 4A’r llances a fyddo da yng ngolwg y brenin, a deyrnasa yn lle Fasti. A da oedd y peth hyn yng ngolwg y brenin; ac felly y gwnaeth efe.
5Yn Susan y brenhinllys yr oedd rhyw Iddew a’i enw Mordecai, mab Jair, fab Simei, fab Cis, gŵr o Jemini: 6Yr hwn a ddygasid o Jerwsalem gyda’r gaethglud a gaethgludasid gyd â Jechoneia brenin Jwda, yr hwn a ddarfuasai i Nebuchodonosor brenin Babilon ei gaethgludo. 7Ac efe a fagasai Hadassa, honno yw Esther, merch ei ewythr ef frawd ei dad; canys nid oedd iddi dad na mam: a’r llances oedd weddeiddlwys, a glân yr olwg; a phan fuasai ei thad a’i mam hi farw, Mordecai a’i cymerasai hi yn ferch iddo.
8A phan gyhoeddwyd gair y brenin a’i gyfraith, pan gasglasid hefyd lancesau lawer i Susan y brenhinllys dan law Hegai, cymerwyd Esther i dŷ y brenin, dan law Hegai ceidwad y gwragedd. 9A’r llances oedd deg yn ei olwg ef, a hi a gafodd ffafr ganddo; am hynny efe ar frys a barodd roddi iddi bethau i’w glanhau, a’i rhannau, a rhoddi iddi saith o lancesau golygus, o dŷ y brenin: ac efe a’i symudodd hi a’i llancesau i’r fan orau yn nhŷ y gwragedd. 10Ond ni fynegasai Esther ei phobl na’i chenedl: canys Mordecai a orchmynasai iddi nad ynganai. 11A Mordecai a rodiodd beunydd o flaen cyntedd tŷ y gwragedd, i wybod llwyddiant Esther, a pheth a wnelid iddi.
12A phan ddigwyddai amser pob llances i fyned i mewn at y brenin Ahasferus, wedi bod iddi hi yn ôl defod y gwragedd ddeuddeng mis, (canys felly y cyflawnid dyddiau eu puredigaeth hwynt; chwe mis mewn olew myrr, a chwe mis mewn peraroglau, a phethau eraill i lanhau y gwragedd;) 13Yna fel hyn y deuai y llances at y brenin; pa beth bynnag a ddywedai hi amdano a roddid iddi, i fyned gyda hi o dŷ y gwragedd i dŷ y brenin. 14Gyda’r hwyr yr âi hi i mewn, a’r bore hi a ddychwelai i dŷ arall y gwragedd, dan law Saasgas, ystafellydd y brenin, ceidwad y gordderchadon: ni ddeuai hi i mewn at y brenin mwyach, oddieithr i’r brenin ei chwennych hi, a’i galw hi wrth ei henw.
15A phan ddigwyddodd amser Esther, merch Abihail ewythr Mordecai, yr hon a gymerasai efe yn ferch iddo, i fyned i mewn at y brenin, ni cheisiodd hi ddim ond yr hyn a ddywedasai Hegai, ystafellydd y brenin, ceidwad y gwragedd: ac Esther oedd yn cael ffafr yng ngolwg pawb a’r oedd yn edrych arni. 16Felly Esther a gymerwyd at y brenin Ahasferus, i’w frenhindy ef, yn y degfed mis, hwnnw yw mis Tebeth, yn y seithfed flwyddyn o’i deyrnasiad ef. 17A’r brenin a hoffodd Esther rhagor yr holl wragedd, a hi a gafodd ffafr a charedigrwydd yn ei ŵydd ef rhagor yr holl wyryfon; ac efe a osododd y deyrngoron ar ei phen hi, ac a’i gwnaeth yn frenhines yn lle Fasti. 18Yna y gwnaeth y brenin wledd fawr i’w holl dywysogion a’i weision, sef gwledd Esther; ac efe a wnaeth ryddid i’r taleithiau, ac a roddodd roddion yn ôl gallu y brenin. 19A phan gasglwyd y gwyryfon yr ail waith, yna Mordecai oedd yn eistedd ym mhorth y brenin. 20Nid oedd Esther yn mynegi ei chenedl, na’i phobl; megis y gorchmynasai Mordecai iddi: canys Esther oedd yn gwneuthur yr hyn a ddywedasai Mordecai, fel cynt pan oedd hi yn ei meithrin gydag ef.
21Yn y dyddiau hynny, pan oedd Mordecai yn eistedd ym mhorth y brenin, y llidiodd Bigthan a Theres, dau o ystafellyddion y brenin, sef o’r rhai oedd yn cadw y trothwy, a cheisiasant estyn llaw yn erbyn y brenin Ahasferus. 22A’r peth a wybu Mordecai; ac efe a’i mynegodd i Esther y frenhines; ac Esther a’i dywedodd wrth y brenin, yn enw Mordecai. 23A phan chwilwyd y peth, fe a gafwyd felly: am hynny y crogwyd hwynt ill dau ar bren. Ac ysgrifennwyd hynny mewn llyfr cronicl gerbron y brenin.

Dewis Presennol:

Esther 2: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda