Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Esra 2

2
1A dyma feibion y dalaith y rhai a ddaeth i fyny o gaethiwed y gaethglud, yr hon a gaethgludasai Nebuchodonosor brenin Babilon i Babilon, ac a ddychwelasant i Jerwsalem a Jwda, pob un i’w ddinas ei hun; 2Y rhai a ddaeth gyda Sorobabel: Jesua, Nehemeia, Seraia, Reelaia, Mordecai, Bilsan, Mispar, Bigfai, Rehum, Baana. Rhifedi gwŷr pobl Israel: 3Meibion Paros, dwy fil a deuddeg ac wyth ugain. 4Meibion Seffatia, tri chant a deuddeg a thrigain. 5Meibion Ara, saith gant a phymtheg a thrigain. 6Meibion Pahath-moab, o feibion Jesua a Joab, dwy fil wyth gant a deuddeg. 7Meibion Elam, mil dau cant a phedwar ar ddeg a deugain. 8Meibion Sattu, naw cant a phump a deugain. 9Meibion Saccai, saith gant a thrigain. 10Meibion Bani, chwe chant a dau a deugain. 11Meibion Bebai, chwe chant a thri ar hugain. 12Meibion Asgad, mil dau cant a dau ar hugain. 13Meibion Adonicam, chwe chant a chwech a thrigain. 14Meibion Bigfai, dwy fil ac onid pedwar trigain. 15Meibion Adin, pedwar cant a phedwar ar ddeg a deugain. 16Meibion Ater o Heseceia, onid dau pum ugain. 17Meibion Besai, tri chant a thri ar hugain. 18Meibion Jora, cant a deuddeg. 19Meibion Hasum, dau cant a thri ar hugain. 20Meibion Gibbar, pymtheg a phedwar ugain. 21Meibion Bethlehem, cant a thri ar hugain. 22Gwŷr Netoffa, onid pedwar trigain. 23Gwŷr Anathoth, cant ac wyth ar hugain. 24Meibion Asmafeth, dau a deugain. 25Meibion Ciriath-arim, Ceffira, a Beeroth, saith gant a thri a deugain. 26Meibion Rama a Gaba, chwe chant ac un ar hugain. 27Gwŷr Michmas, cant a dau ar hugain. 28Gwŷr Bethel ac Ai, dau cant a thri ar hugain. 29Meibion Nebo, deuddeg a deugain. 30Meibion Magbis, cant ac onid pedwar trigain. 31Meibion Elam arall, mil dau cant a phedwar ar ddeg a deugain. 32Meibion Harim, tri chant ac ugain. 33Meibion Lod, Hadid, ac Ono, saith gant a phump ar hugain. 34Meibion Jericho, tri chant a phump a deugain. 35Meibion Senaa, tair mil a chwe chant a deg ar hugain.
36Yr offeiriaid: meibion Jedaia, o dŷ Jesua, naw cant deg a thrigain a thri. 37Meibion Immer, mil a deuddeg a deugain. 38Meibion Pasur, mil dau cant a saith a deugain. 39Meibion Harim, mil a dau ar bymtheg.
40Y Lefiaid: meibion Jesua a Chadmiel, o feibion Hodafia, pedwar ar ddeg a thrigain.
41Y cantoriaid: meibion Asaff, cant ac wyth ar hugain.
42Meibion y porthorion: sef meibion Salum, meibion Ater, meibion Talmon, meibion Accub, meibion Hatita, meibion Sobai, oedd oll gant ac onid un deugain.
43Y Nethiniaid: meibion Siha, meibion Hasuffa, meibion Tabbaoth, 44Meibion Ceros, meibion Sïaha, meibion Padon, 45Meibion Lebana, meibion Hagaba, meibion Accub, 46Meibion Hagab, meibion Samlai, meibion Hanan, 47Meibion Gidel, meibion Gahar, meibion Reaia, 48Meibion Resin, meibion Necoda, meibion Gassam, 49Meibion Ussa, meibion Pasea, meibion Besai, 50Meibion Asna, meibion Mehunim, meibion Neffusim, 51Meibion Bacbuc, meibion Hacuffa, meibion Harhur, 52Meibion Basluth, meibion Mehida, meibion Harsa, 53Meibion Barcos, meibion Sisera, meibion Thama, 54Meibion Neseia, meibion Hatiffa.
55Meibion gweision Solomon: meibion Sotai meibion Soffereth, meibion Peruda, 56Meibion Jaala, meibion Darcon, meibion Gidel, 57Meibion Seffatia, meibion Hattil, meibion Pochereth o Sebaim, meibion Ami. 58Yr holl Nethiniaid, a meibion gweision Solomon, oedd dri chant deuddeg a phedwar ugain. 59A’r rhai hyn a aethant i fyny o Tel-mela, Tel-harsa, Cerub, Adan, ac Immer: ond ni fedrent ddangos tŷ eu tadau, na’u hiliogaeth, ai o Israel yr oeddynt: 60Meibion Delaia, meibion Tobeia, meibion Necoda, chwe chant a deuddeg a deugain.
61A meibion yr offeiriaid: meibion Habaia, meibion Cos, meibion Barsilai; yr hwn a gymerasai wraig o ferched Barsilai y Gileadiad, ac a alwasid ar eu henw hwynt. 62Y rhai hyn a geisiasant eu hysgrifen ymhlith yr achau, ond ni chafwyd hwynt: am hynny y bwriwyd hwynt allan o’r offeiriadaeth. 63A’r Tirsatha a ddywedodd wrthynt, na fwytaent o’r pethau sancteiddiaf, hyd oni chyfodai offeiriad ag Urim ac â Thummim.
64Yr holl dyrfa ynghyd, oedd ddwy fil a deugain tri chant a thrigain: 65Heblaw eu gweision a’u morynion; y rhai hynny oedd saith mil tri chant a dau ar bymtheg ar hugain: ac yn eu mysg yr oedd dau cant yn gantorion ac yn gantoresau. 66Eu meirch oedd saith gant ac onid pedwar deugain; eu mulod yn ddau cant ac yn bump a deugain; 67Eu camelod yn bedwar cant ac yn bymtheg ar hugain; eu hasynnod yn chwe mil saith gant ac ugain.
68Ac o’r pennau-cenedl pan ddaethant i dŷ yr Arglwydd, yr hwn oedd yn Jerwsalem, rhai a offrymasant o’u gwaith eu hun tuag at dŷ yr Arglwydd, i’w gyfodi yn ei le. 69Rhoddasant yn ôl eu gallu i drysordy y gwaith, un fil a thrigain o ddracmonau aur, a phum mil o bunnoedd o arian, a chant o wisgoedd offeiriaid. 70Yna yr offeiriaid a’r Lefiaid, a rhai o’r bobl, a’r cantorion, a’r porthorion, a’r Nethiniaid, a drigasant yn eu dinasoedd; a holl Israel yn eu dinasoedd.

Dewis Presennol:

Esra 2: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda