Esra 8
8
1A dyma eu pennau-cenedl hwynt, a’u hachau, y rhai a aeth i fyny gyda mi, yn nheyrnasiad Artacsercses y brenin, allan o Babilon. 2O feibion Phinees; Gersom: o feibion Ithamar; Daniel: o feibion Dafydd; Hattus: 3O feibion Sechaneia, o feibion Pharos; Sechareia: a chydag ef y rhifwyd wrth eu hachau gant a deg a deugain o wrywiaid. 4O feibion Pahath-moab; Elihoenai mab Seraheia, a chydag ef ddau cant o wrywiaid. 5O feibion Sechaneia; mab Jahasiel, a chydag ef dri chant o wrywiaid. 6O feibion Adin hefyd; Ebed mab Jonathan, a chydag ef ddeg a deugain o wrywiaid. 7Ac o feibion Elam; Jesaia mab Athaleia, a chydag ef ddeg a thrigain o wrywiaid. 8Ac o feibion Seffatia; Sebadeia mab Michael, a chydag ef bedwar ugain o wrywiaid. 9O feibion Joab; Obadeia mab Jehiel, a chydag ef ddau cant a deunaw o wrywiaid. 10Ac o feibion Selomith; mab Josiffia, a chydag ef wyth ugain o wrywiaid. 11Ac o feibion Bebai; Sechareia mab Bebai, a chydag ef wyth ar hugain o wrywiaid. 12Ac o feibion Asgad; Johanan mab Haccatan, a chydag ef ddeng mab a chant. 13Ac o feibion olaf Adonicam, dyma hefyd eu henwau hwynt, Eliffelet, Jeiel, a Semaia, a chyda hwynt drigain o wrywiaid. 14Ac o feibion Bigfai; Uthai, a Sabbud, a chyda hwynt ddeg a thrigain o wrywiaid.
15A chesglais hwynt wrth yr afon sydd yn myned i Ahafa; ac yno y gwersyllasom ni dridiau: a mi a ystyriais y bobl, a’r offeiriaid, ond ni chefais yno neb o feibion Lefi. 16Yna yr anfonais am Elieser, am Ariel, am Semaia, ac am Elnathan, ac am Jarib, ac am Elnathan, ac am Nathan, ac am Sechareia, ac am Mesulam, y penaethiaid; ac am Joiarib, ac am Elnathan, y rhai doethion: 17A rhoddais orchymyn gyda hwynt at Ido, pennaeth yn y fan a elwir Chasiffia; a gosodais yn eu pennau hwynt eiriau i’w traethu wrth Ido, a’i frodyr y Nethiniaid, yn y fan a elwir Chasiffia, fel y dygent atom ni weinidogion i dŷ ein Duw. 18A hwy a ddygasant atom, fel yr oedd daionus law ein Duw arnom ni, ŵr deallgar o feibion Mahli, fab Lefi, fab Israel, a Serebeia, a’i feibion, a’i frodyr, ddeunaw; 19A Hasabeia, a chydag ef Jesaia o feibion Merari, a’i frodyr, a’u meibion, ugain; 20Ac o’r Nethiniaid, a roddasai Dafydd a’r tywysogion yng ngwasanaeth y Lefiaid, dau cant ac ugain o Nethiniaid: hwynt oll a hysbysasid erbyn eu henwau.
21Ac yno, wrth afon Ahafa, y cyhoeddais ympryd, i ymgystuddio gerbron ein Duw ni, i geisio ganddo ef ffordd union i ni, ac i’n plant, ac i’n golud oll. 22Canys cywilydd oedd gennyf geisio gan y brenin fyddin a gwŷr meirch, i’n cynorthwyo rhag y gelyn ar y ffordd: canys llefarasem wrth y brenin, gan ddywedyd, Llaw ein Duw ni sydd er daioni ar bawb a’i ceisiant ef, a’i gryfder a’i ddicter yn erbyn pawb a’i gadawant ef. 23Am hynny yr ymprydiasom ac yr ymbiliasom â’n Duw am hyn; ac efe a wrandawodd arnom.
24Yna y neilltuais ddeuddeg o benaethiaid yr offeiriaid, Serebeia, Hasabeia, a deg o’u brodyr gyda hwynt; 25Ac a bwysais atynt hwy yr arian, a’r aur, a’r llestri, sef offrwm tŷ ein Duw ni, yr hyn a offrymasai y brenin, a’i gynghoriaid, a’i dywysogion, a holl Israel, y rhai a gawsid yno. 26Ie, pwysais i’w dwylo hwynt chwe chant a deg a deugain talent o arian, ac o lestri arian gan talent, a chan talent o aur; 27Ac ugain o orflychau aur o fil o ddracmonau; a dau lestr o bres melyn da, mor brydferth ag aur. 28A dywedais wrthynt, Sanctaidd ydych chwi i’r Arglwydd; a’r llestri ydynt sanctaidd; yr arian hefyd a’r aur sydd offrwm gwirfodd i Arglwydd Dduw eich tadau. 29Gwyliwch, a chedwch hwynt, hyd oni phwysoch hwynt gerbron penaethiaid yr offeiriaid a’r Lefiaid, a phennau-cenedl Israel yn Jerwsalem, yng nghelloedd tŷ yr Arglwydd. 30Felly yr offeiriaid a’r Lefiaid a gymerasant bwys yr arian, a’r aur, a’r llestri, i’w dwyn i Jerwsalem i dŷ ein Duw ni.
31A chychwynasom oddi wrth afon Ahafa, ar y deuddegfed dydd o’r mis cyntaf, i fyned i Jerwsalem: a llaw ein Duw oedd arnom ni, ac a’n gwaredodd o law y gelyn, a’r rhai oedd yn cynllwyn ar y ffordd. 32A ni a ddaethom i Jerwsalem, ac a arosasom yno dridiau.
33Ac ar y pedwerydd dydd y pwyswyd yr arian, a’r aur, a’r llestri, yn nhŷ ein Duw ni, trwy law Meremoth mab Ureia yr offeiriad; ac Eleasar mab Phinees oedd gydag ef; a Josabad mab Jesua, a Noadeia mab Binnui, y Lefiaid, oedd gyda hwynt; 34Wrth rifedi, ac wrth bwys pob un: a’r holl bwysau a ysgrifennwyd y pryd hwnnw. 35Meibion y gaethglud, y rhai a ddaeth o’r caethiwed, a offrymasant boethoffrymau i Dduw Israel, sef deuddeg o fustych dros holl Israel, onid pedwar pum ugain o hyrddod, namyn tri pedwar ugain o ŵyn, a deuddeg o fychod yn bech-aberth: y cwbl oedd yn offrwm poeth i’r Arglwydd.
36A rhoddasant orchymyn y brenin at bendefigion y brenin, a thywysogion y tu hwnt i’r afon: a hwy a gynorthwyasant y bobl, a thŷ Duw.
Dewis Presennol:
Esra 8: BWM
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.

: