Oblegid hynny ninnau hefyd, gan fod cymaint cwmwl o dystion wedi ei osod o’n hamgylch, gan roi heibio bob pwys, a’r pechod sydd barod i’n hamgylchu, trwy amynedd rhedwn yr yrfa a osodwyd o’n blaen ni; Gan edrych ar Iesu, Pen-tywysog a Pherffeithydd ein ffydd ni; yr hwn, yn lle’r llawenydd a osodwyd iddo, a ddioddefodd y groes, gan ddiystyru gwaradwydd, ac a eisteddodd ar ddeheulaw gorseddfainc Duw. Ystyriwch am hynny yr hwn a ddioddefodd gyfryw ddywedyd yn ei erbyn gan bechaduriaid; fel na flinoch, ac nad ymollyngoch yn eich eneidiau.
Darllen Hebreaid 12
Gwranda ar Hebreaid 12
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Hebreaid 12:1-3
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos