Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 16

16
1Anfonwch oen i lywodraethwr y tir, o Sela i’r anialwch, i fynydd merch Seion. 2Bydd fel aderyn yn gwibio wedi ei fwrw allan o’r nyth; felly y bydd merched Moab wrth rydau Arnon. 3Ymgynghora, gwna farn, gwna dy gysgod fel nos yng nghanol hanner dydd; cuddia y rhai gwasgaredig, na ddatguddia y crwydrad. 4Triged fy ngwasgaredigion gyda thi; Moab, bydd di loches iddynt rhag y dinistrydd; canys diweddwyd y gorthrymydd, yr anrheithiwr a beidiodd, y mathrwyr a ddarfuant o’r tir. 5A gorseddfainc a ddarperir mewn trugaredd; ac arni yr eistedd efe mewn gwirionedd, o fewn pabell Dafydd, yn barnu ac yn ceisio barn, ac yn prysuro cyfiawnder.
6Clywsom am falchder Moab, (balch iawn yw,) am ei falchder, a’i draha, a’i ddicllonedd: ond nid felly y bydd ei gelwyddau. 7Am hynny yr uda Moab am Moab, pob un a uda: am sylfeini Cir-hareseth y griddfenwch; yn ddiau hwy a drawyd. 8Canys gwinwydd Hesbon a wanhasant; ac am winwydden Sibma, arglwyddi y cenhedloedd a ysgydwasant ei phêr winwydd hi; hyd Jaser y cyraeddasant; crwydrasant ar hyd yr anialwch; ei changhennau a ymestynasant, ac a aethant dros y môr.
9Am hynny y galaraf ag wylofain Jaser, gwinwydden Sibma; dyfrhaf di, Hesbon, ac Eleale, â’m dagrau: canys ar dy ffrwythydd haf, ac ar dy gynhaeaf, y syrthiodd bloedd. 10Y llawenydd hefyd a’r gorfoledd a ddarfu o’r dolydd: ni chenir ac ni floeddir yn y gwinllannoedd; ni sathr sathrydd win yn y gwryfoedd; gwneuthum i’w bloedd gynhaeaf beidio. 11Am hynny y rhua fy ymysgaroedd am Moab fel telyn, a’m perfedd am Cir-hares.
12A phan weler blino o Moab ar yr uchelfan, yna y daw efe i’w gysegr i weddïo; ond ni thycia iddo. 13Dyma y gair a lefarodd yr Arglwydd am Moab, er yr amser hwnnw. 14Ond yn awr y llefarodd yr Arglwydd, gan ddywedyd, O fewn tair blynedd, fel blynyddoedd gwas cyflog, y dirmygir gogoniant Moab, a’r holl dyrfa fawr; a’r gweddill fydd ychydig bach a di-rym.

Dewis Presennol:

Eseia 16: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda