Nac ofna; canys ni’th gywilyddir: ac na’th waradwydder, am na’th warthruddir; canys ti a anghofi waradwydd dy ieuenctid, a gwarthrudd dy weddwdod ni chofi mwyach. Canys dy briod yw yr hwn a’th wnaeth; ARGLWYDD y lluoedd yw ei enw: dy Waredydd hefyd, Sanct Israel, DUW yr holl ddaear y gelwir ef. Canys fel gwraig wrthodedig, a chystuddiedig o ysbryd, y’th alwodd yr ARGLWYDD, a gwraig ieuenctid, pan oeddit wrthodedig, medd dy DDUW. Dros ennyd fechan y’th adewais; ond â mawr drugareddau y’th gasglaf. Mewn ychydig soriant y cuddiais fy wyneb oddi wrthyt ennyd awr; ond â thrugaredd dragwyddol y trugarhaf wrthyt, medd yr ARGLWYDD dy Waredydd.
Darllen Eseia 54
Gwranda ar Eseia 54
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Eseia 54:4-8
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos