Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Jeremeia 48

48
1Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, yn erbyn Moab; Gwae Nebo! canys hi a anrheithiwyd: gwaradwyddwyd Ciriathaim, ac enillwyd hi; Misgab a waradwyddwyd, ac a ddychrynwyd. 2Ni bydd ymffrost Moab mwy: yn Hesbon hwy a ddychmygasant ddrwg i’w herbyn hi: Deuwch, dinistriwn hi i lawr, fel na byddo yn genedl. Tithau, Madmen, a dorrir i lawr, y cleddyf a’th erlid. 3Llef yn gweiddi a glywir o Horonaim; anrhaith, a dinistr mawr. 4Moab a ddistrywiwyd; gwnaeth ei rhai bychain glywed gwaedd. 5Canys yn rhiw Luhith, galar a â i fyny mewn wylofain, ac yng ngoriwaered Horonaim y gelynion a glywsant waedd dinistr. 6Ffowch, achubwch eich einioes; a byddwch fel y grug yn yr anialwch.
7Oherwydd am i ti ymddiried yn dy weithredoedd a’th drysorau dy hun, tithau a ddelir: Cemos hefyd a â allan i gaethiwed, a’i offeiriaid a’i dywysogion ynghyd. 8A’r anrheithiwr a ddaw i bob dinas, ac ni ddianc un ddinas: eithr derfydd am y dyffryn, a’r gwastad a ddifwynir, megis y dywedodd yr Arglwydd. 9Rhoddwch adenydd i Moab, fel yr ehedo ac yr elo ymaith; canys ei dinasoedd hi a fyddant anghyfannedd, heb breswylydd ynddynt. 10Melltigedig fyddo yr hwn a wnelo waith yr Arglwydd yn dwyllodrus, a melltigedig fyddo yr hwn a atalio ei gleddyf oddi wrth waed.
11Moab a fu esmwyth arni er ei hieuenctid, a hi a orffwysodd ar ei gwaddod, ac ni thywalltwyd hi o lestr i lestr, ac nid aeth hi i gaethiwed: am hynny y safodd ei blas arni, ac ni newidiodd ei harogl. 12Am hynny wele y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, pan anfonwyf fudwyr, y rhai a’i mudant hi, ac a wacânt ei llestri hi, ac a ddrylliant eu costrelau. 13A Moab a gywilyddia oblegid Cemos, fel y cywilyddiodd tŷ Israel oblegid Bethel eu hyder hwynt.
14Pa fodd y dywedwch chwi, Cedyrn ydym ni, a gwŷr nerthol i ryfel? 15Moab a anrheithiwyd, ac a aeth i fyny o’i dinasoedd, a’i dewis wŷr ieuainc a ddisgynasant i’r lladdfa, medd y Brenin, a’i enw Arglwydd y lluoedd. 16Agos yw dinistr Moab i ddyfod, a’i dialedd hi sydd yn brysio yn ffest. 17Alaethwch drosti hi, y rhai ydych o’i hamgylch; a phawb a’r a edwyn ei henw hi, dywedwch, Pa fodd y torrwyd y ffon gref, a’r wialen hardd! 18O breswylferch Dibon, disgyn o’th ogoniant, ac eistedd mewn syched; canys anrheithiwr Moab a ddaw i’th erbyn, ac a ddinistria dy amddiffynfeydd. 19Preswylferch Aroer, saf ar y ffordd, a gwylia; gofyn i’r hwn a fyddo yn ffoi, ac i’r hwn a ddihango, a dywed, Beth a ddarfu? 20Gwaradwyddwyd Moab, canys hi a ddinistriwyd: udwch, a gwaeddwch; mynegwch yn Arnon anrheithio Moab; 21A barn a ddaw ar y tir gwastad, ar Holon, ac ar Jahasa, ac ar Meffaath, 22Ac ar Dibon, ac ar Nebo, ac ar Beth-diblathaim, 23Ac ar Ciriathaim, ac ar Beth-gamul, ac ar Beth-meon. 24Ac ar Cerioth, ac ar Bosra, ac ar holl ddinasoedd gwlad Moab, ymhell ac yn agos. 25Corn Moab a ysgythrwyd, a’i braich hi a dorrwyd, medd yr Arglwydd.
26Meddwwch hi, oblegid hi a ymfawrygodd yn erbyn yr Arglwydd: ie, Moab a ymdrybaedda yn ei chwydfa; am hynny y bydd hi hefyd yn watwargerdd. 27Ac oni bu Israel yn watwargerdd i ti? a gafwyd ef ymysg lladron? canys er pan soniaist amdano, yr ymgynhyrfaist. 28Trigolion Moab, gadewch y dinasoedd, ac arhoswch yn y graig, a byddwch megis colomen yr hon a nytha yn yr ystlysau ar fin y twll. 29Nyni a glywsom falchder Moab, (y mae hi yn falch iawn,) ei huchder, ei rhyfyg, a’i hymchwydd, ac uchder ei chalon. 30Myfi a adwaen ei llid hi, medd yr Arglwydd; ond nid felly y bydd; ei chelwyddau hi ni wnânt felly. 31Am hynny yr udaf fi dros Moab, ac y gwaeddaf dros holl Moab: fy nghalon a riddfana dros wŷr Cir-heres. 32Myfi a wylaf drosot ti, gwinwydden Sibma, ag wylofain Jaser; dy gangau a aethant dros y môr, hyd fôr Jaser y cyrhaeddant: yr anrheithiwr a ruthrodd ar dy ffrwythydd haf, ac ar dy gynhaeaf gwin. 33A dygir ymaith lawenydd a gorfoledd o’r doldir, ac o wlad Moab, a mi a wnaf i’r gwin ddarfod o’r cafnau: ni sathr neb trwy floddest; eu bloddest ni bydd bloddest. 34O floedd Hesbon hyd Eleale, a hyd Jahas, y llefasant, o Soar hyd Horonaim, fel anner deirblwydd: canys dyfroedd Nimrim a fyddant anghyfannedd. 35Mi a wnaf hefyd ballu ym Moab, medd yr Arglwydd, yr hwn sydd yn offrymu mewn uchelfeydd, a’r hwn sydd yn arogldarthu i’w dduwiau. 36Am hynny y lleisia fy nghalon am Moab fel pibellau, ac am wŷr Cir-heres y lleisia fy nghalon fel pibellau; oblegid darfod y golud a gasglodd. 37Oblegid pob pen a fydd moel, a phob barf a dorrir; ar bob llaw y bydd rhwygiadau, ac am y llwynau, sachliain. 38Ar holl bennau tai Moab, a’i heolydd oll, y bydd alaeth: oblegid myfi a dorraf Moab fel llestr heb hoffter ynddo, medd yr Arglwydd. 39Hwy a udant, gan ddywedyd, Pa fodd y bwriwyd hi i lawr! pa fodd y trodd Moab ei gwar trwy gywilydd! Felly Moab a fydd yn watwargerdd, ac yn ddychryn i bawb o’i hamgylch. 40Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd, Wele, efe a eheda fel eryr, ac a leda ei adenydd dros Moab. 41Y dinasoedd a oresgynnir, a’r amddiffynfeydd a enillir, a chalon cedyrn Moab fydd y dydd hwnnw fel calon gwraig wrth esgor. 42A Moab a ddifethir o fod yn bobl, am iddi ymfawrygu yn erbyn yr Arglwydd. 43Ofn, a ffos, a magl a ddaw arnat ti, trigiannol Moab, medd yr Arglwydd. 44Y neb a ffy rhag yr ofn, a syrth yn y ffos; a’r hwn a gyfyd o’r ffos, a ddelir yn y fagl: canys myfi a ddygaf arni, sef ar Moab, flwyddyn eu hymweliad, medd yr Arglwydd. 45Yng nghysgod Hesbon y safodd y rhai a ffoesant rhag y cadernid: eithr tân a ddaw allan o Hesbon, a fflam o ganol Sihon, ac a ysa gongl Moab, a chorun y meibion trystfawr. 46Gwae di, Moab! darfu am bobl Cemos: canys cymerwyd ymaith dy feibion yn gaethion, a’th ferched yn gaethion.
47Eto myfi a ddychwelaf gaethiwed Moab yn y dyddiau diwethaf, medd yr Arglwydd. Hyd yma y mae barn Moab.

Dewis Presennol:

Jeremeia 48: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda