Job 11
11
1A soffar y Naamathiad a atebodd ac a ddywedodd, 2Oni atebir amlder geiriau? ac a gyfiawnheir gŵr siaradus? 3Ai dy gelwyddau a wna i wŷr dewi? a phan watwarech, oni bydd a’th waradwyddo? 4Canys dywedaist, Pur ydyw fy nysgeidiaeth, a glân ydwyf yn dy olwg di. 5Ond, O na lefarai Duw, ac nad agorai ei wefusau yn dy erbyn, 6A mynegi i ti ddirgeledigaethau doethineb, eu bod yn ddau cymaint â’r hyn sydd! Cydnebydd gan hynny i Dduw ofyn gennyt lai nag haeddai dy anwiredd. 7A elli di wrth chwilio gael gafael ar Dduw? a elli di gael yr Hollalluog hyd berffeithrwydd? 8Cyfuwch â’r nefoedd ydyw, beth a wnei di? dyfnach nag uffern yw, beth a elli di ei wybod? 9Mae ei fesur ef yn hwy na’r ddaear, ac yn lletach na’r môr. 10Os tyr efe ymaith, ac os carchara: os casgl ynghyd, pwy a’i rhwystra ef? 11Canys efe a edwyn ofer ddynion, ac a wêl anwiredd; onid ystyria efe gan hynny? 12Dyn gwag er hynny a gymer arno fod yn ddoeth; er geni dyn fel llwdn asen wyllt. 13Os tydi a baratoi dy galon, ac a estynni dy ddwylo ato ef; 14Od oes drygioni yn dy law, bwrw ef ymaith ymhell, ac na ddioddef i anwiredd drigo yn dy luestai: 15Canys yna y codi dy wyneb yn ddifrychau; ie, byddi safadwy, ac nid ofni: 16Oblegid ti a ollyngi dy ofid dros gof: fel dyfroedd y rhai a aethant heibio y cofi ef. 17Dy oedran hefyd a fydd disgleiriach na hanner dydd; llewyrchi, a byddi fel y boreddydd. 18Hyderus fyddi hefyd, oherwydd bod gobaith: ie, ti a gloddi, ac a orweddi mewn diogelwch. 19Ti a orweddi hefyd, ac ni bydd a’th ddychryno, a llawer a ymbiliant â’th wyneb. 20Ond llygaid yr annuwiolion a ddiffygiant, metha ganddynt ffoi, a’u gobaith fydd fel ymadawiad yr enaid.
Dewis Presennol:
Job 11: BWM
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.

: