Job 3
3
1Wedi hyn Job a agorodd ei enau, ac a felltithiodd ei ddydd. 2A Job a lefarodd, ac a ddywedodd, 3Darfydded am y dydd y’m ganwyd ynddo, a’r nos y dywedwyd, Enillwyd gwryw. 4Bydded y dydd hwnnw yn dywyllwch, a Duw oddi uchod heb ei ystyried; ac na thywynned llewyrch arno. 5Tywyllwch a chysgod marwolaeth a’i halogo, ac arhosed cwmwl arno; dued y diwrnod a’i dychryno. 6Y nos honno, tywyllwch a’i cymero; na chydier hi â dyddiau y flwyddyn, ac na ddeued i rifedi y misoedd. 7Bydded y noswaith honno yn unig, ac na fydded gorfoledd ynddi. 8A’r rhai a felltithiant y dydd, ac sydd barod i gyffroi eu galar, a’i melltithio hi. 9A bydded sêr ei chyfddydd hi yn dywyll: disgwylied am oleuni ac na fydded iddi; ac na chaffed weled y wawrddydd: 10Am na chaeodd ddrysau croth fy mam, ac na chuddiodd ofid oddi wrth fy llygaid. 11Paham na bûm farw o’r bru? na threngais pan ddeuthum allan o’r groth? 12Paham y derbyniodd gliniau fyfi? a phaham y cefais fronnau i sugno? 13Oherwydd yn awr mi a gawswn orwedd, a gorffwys, a huno: yna y buasai llonyddwch i mi. 14Gyda brenhinoedd a chynghorwyr y ddaear, y rhai a adeiladasant iddynt eu hunain fannau anghyfannedd; 15Neu gyda thywysogion ag aur ganddynt, y rhai a lanwasant eu tai ag arian; 16Neu fel erthyl cuddiedig, ni buaswn ddim; megis plant bychain heb weled goleuni. 17Yno yr annuwiolion a beidiant â’u cyffro; ac yno y gorffwys y rhai lluddedig. 18Y rhai a garcharwyd a gânt yno lonydd ynghyd; ni chlywant lais y gorthrymydd. 19Bychan a mawr sydd yno; a’r gwas a ryddhawyd oddi wrth ei feistr. 20Paham y rhoddir goleuni i’r hwn sydd mewn llafur, a bywyd i’r gofidus ei enaid? 21Y rhai sydd yn disgwyl am farwolaeth, ac heb ei chael; ac yn cloddio amdani yn fwy nag am drysorau cuddiedig? 22Y rhai a lawenychant mewn hyfrydwch, ac a orfoleddant, pan gaffont y bedd? 23Paham y rhoddir goleuni i’r dyn y mae ei ffordd yn guddiedig, ac y caeodd Duw arno? 24Oblegid o flaen fy mwyd y daw fy uchenaid; a’m rhuadau a dywelltir megis dyfroedd. 25Canys yr hyn a fawr ofnais a ddaeth arnaf, a’r hyn a arswydais a ddigwyddodd i mi. 26Ni chefais na llonydd nac esmwythdra, ac ni orffwysais: er hynny daeth cynnwrf.
Dewis Presennol:
Job 3: BWM
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.

: