Job 31
31
1Myfi a wneuthum amod â’m llygaid; paham gan hynny y meddyliwn am forwyn? 2Canys pa ran sydd oddi wrth Dduw oddi uchod? a pha etifeddiaeth sydd oddi wrth yr Hollalluog o’r uchelder? 3Onid oes dinistr i’r anwir? a dialedd dieithr i’r rhai sydd yn gwneuthur anwiredd? 4Onid ydyw efe yn gweled fy ffyrdd i? ac yn cyfrif fy holl gamre? 5Os rhodiais mewn oferedd, ac os prysurodd fy nhroed i dwyllo; 6Pwysed fi mewn cloriannau cyfiawn, a mynned Duw wybod fy mherffeithrwydd. 7Os gwyrodd fy ngherddediad allan o’r ffordd; a myned o’m calon ar ôl fy llygaid; neu lynu dim aflan wrth fy nwylo: 8Yna heuwyf fi, a bwytaed arall; ie, dadwreiddier fy hiliogaeth i. 9Os twylled fy nghalon gan wraig, ac os cynllwynais wrth ddrws fy nghymydog; 10Maled fy ngwraig innau i ŵr arall; ac ymgrymed eraill arni hi. 11Canys ysgelerder ydyw hyn, ac anwiredd ydyw i’w gosbi gan farnwyr. 12Canys tân ydyw a ysa oni anrheithio, ac efe a ddadwreiddia fy holl ffrwyth. 13Os diystyrais achos fy ngwas a’m gwasanaethferch, pan ymrysonent â mi; 14Pa beth gan hynny a wnaf pan godo Duw? a phan ymwelo efe, pa beth a atebaf iddo? 15Onid yr hwn a’m gwnaeth i yn y groth, a’i gwnaeth yntau? ac onid yr un a’n lluniodd yn y bru? 16Os ateliais ddim o ddeisyfiad y tlawd, ac os gwneuthum i lygaid y weddw ddiffygio; 17Ac os bwyteais fy mwyd yn unig, ac oni fwytaodd yr amddifad ohono; 18(Canys efe a gynyddodd gyda mi, fel gyda thad, o’m hieuenctid; ac o groth fy mam mi a’i tywysais hi;) 19Os gwelais neb yn marw o eisiau dillad, a’r anghenog heb wisg: 20Os ei lwynau ef ni’m bendithiasant, ac oni chynhesodd efe gan gnu fy nefaid i; 21Os codais fy llaw yn erbyn yr amddifad, pan welwn fy nghymorth yn y porth: 22Syrthied fy mraich oddi wrth fy ysgwydd, a thorrer fy mraich oddi wrth y cymal. 23Canys ofn dinistr Duw oedd arnaf; a chan ei uchelder ef ni allwn oddef. 24Os gosodais fy ngobaith mewn aur; ac os dywedais wrth aur coeth, Fy ymddiried wyt; 25Os llawenychais am fod fy nghyfoeth yn fawr, ac oblegid i’m llaw gael llawer; 26Os edrychais ar yr haul pan dywynnai, a’r lleuad yn cerdded yn ddisglair; 27Ac os hudwyd fy nghalon yn guddiedig, ac os fy ngenau a gusanodd fy llaw: 28Hyn hefyd fuasai anwiredd i’w gosbi gan y barnwyr: canys gwadaswn Dduw uchod. 29Os llawenychais i am drychineb yr hwn a’m casâi, ac os ymgodais pan ddigwyddodd drwg iddo: 30(Ac ni ddioddefais i daflod fy ngenau bechu; gan ofyn ei einioes ef trwy felltithio.) 31Oni ddywedodd dynion fy mhabell, O na chaem o’i gnawd ef! ni ddigonir ni. 32Ni letyodd dieithrddyn yn yr heol: agorais fy nrysau i’r fforddolion. 33Os cuddiais fy nghamweddau fel Adda; gan guddio fy anwiredd yn fy mynwes; 34A ofnais i dyrfa luosog, neu a’m dychrynai dirmyg teulu; fel y tawn, heb fyned allan o’m drws? 35O am un a’m gwrandawai! wele, fy nymuniad yw, i’r Hollalluog fy ateb i, ac ysgrifennu o’m gwrthwynebwr lyfr. 36Diau y dygwn ef ar fy ysgwydd; a rhwymwn ef yn lle coron i mi. 37Mynegwn iddo rifedi fy nghamre; fel tywysog y nesawn ato. 38Os ydyw fy nhir i yn llefain yn fy erbyn, ac os ydyw ei gwysau ef yn cyd-wylo; 39Os bwyteais i ei gnwd ef heb arian, ac os cystuddiais enaid ei berchenogion ef: 40Tyfed ysgall yn lle gwenith, a bulwg yn lle haidd. Diweddwyd geiriau Job.
Dewis Presennol:
Job 31: BWM
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.

: