Job 7
7
1Onid oes amser terfynedig i ddyn ar y ddaear? onid yw ei ddyddiau ef megis dyddiau gwas cyflog? 2Megis y dyhea gwas am gysgod, ac y disgwyl cyflogddyn wobr ei waith: 3Felly y gwnaethpwyd i mi feddiannu misoedd o oferedd, a nosweithiau blinion a osodwyd i mi. 4Pan orweddwyf, y dywedaf, Pa bryd y codaf, ac yr ymedy y nos? canys caf ddigon o ymdroi hyd y cyfddydd. 5Fy nghnawd a wisgodd bryfed a thom priddlyd: fy nghroen a agennodd, ac a aeth yn ffiaidd. 6Fy nyddiau sydd gynt na gwennol gwehydd, ac a ddarfuant heb obaith. 7Cofia mai gwynt yw fy hoedl: ni wêl fy llygad ddaioni mwyach. 8Y llygad a’m gwelodd, ni’m gwêl mwyach: dy lygaid sydd arnaf, ac nid ydwyf. 9Fel y derfydd y cwmwl, ac yr â ymaith: felly yr hwn sydd yn disgyn i’r bedd, ni ddaw i fyny mwyach. 10Ni ddychwel mwy i’w dŷ: a’i le nid edwyn ef mwy. 11Gan hynny ni warafunaf i’m genau; mi a lefaraf yng nghyfyngdra fy ysbryd; myfi a gwynaf yn chwerwder fy enaid. 12Ai môr ydwyf, neu forfil, gan dy fod yn gosod cadwraeth arnaf? 13Pan ddywedwyf, Fy ngwely a’m cysura, fy ngorweddfa a esmwythâ fy nghwynfan; 14Yna y’m brawychi â breuddwydion, ac y’m dychryni â gweledigaethau: 15Am hynny y dewisai fy enaid ymdagu, a marwolaeth yn fwy na’m hoedl. 16Ffieiddiais einioes, ni fynnwn fyw byth: paid â mi, canys oferedd ydyw fy nyddiau. 17Pa beth ydyw dyn, pan fawrheit ef? a phan osodit dy feddwl arno? 18Ac ymweled ag ef bob bore, a’i brofi ar bob moment? 19Pa hyd y byddi heb gilio oddi wrthyf, ac na adewi fi yn llonydd tra llyncwyf fy mhoeryn? 20Myfi a bechais; beth a wnaf i ti, O geidwad dyn? paham y gosodaist fi yn nod i ti, fel yr ydwyf yn faich i mi fy hun? 21A phaham na faddeui fy nghamwedd, ac na fwri heibio fy anwiredd? canys yn awr yn y llwch y gorweddaf, a thi a’m ceisi yn fore, ond ni byddaf.
Dewis Presennol:
Job 7: BWM
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.

: