Ac efe a ddaeth i Nasareth, lle y magesid ef: ac yn ôl ei arfer, efe a aeth i’r synagog ar y Saboth, ac a gyfododd i fyny i ddarllen. A rhodded ato lyfr y proffwyd Eseias. Ac wedi iddo agoryd y llyfr, efe a gafodd y lle yr oedd yn ysgrifenedig, Ysbryd yr Arglwydd sydd arnaf fi, oherwydd iddo fy eneinio i; i bregethu i’r tlodion yr anfonodd fi, i iacháu’r drylliedig o galon, i bregethu gollyngdod i’r caethion, a chaffaeliad golwg i’r deillion, i ollwng y rhai ysig mewn rhydd-deb, I bregethu blwyddyn gymeradwy yr Arglwydd.
Darllen Luc 4
Gwranda ar Luc 4
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Luc 4:16-19
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos