Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Malachi 4

4
1Canys wele y dydd yn dyfod, yn llosgi megis ffwrn; a’r holl feilchion, a holl weithredwyr anwiredd, a fyddant sofl: a’r dydd sydd yn dyfod a’u llysg hwynt, medd Arglwydd y lluoedd, fel na adawo iddynt na gwreiddyn na changen.
2Ond Haul cyfiawnder a gyfyd i chwi, y rhai ydych yn ofni fy enw, â meddyginiaeth yn ei esgyll; a chwi a ewch allan, ac a gynyddwch megis lloi pasgedig. 3A chwi a fethrwch yr annuwiolion; canys byddant yn lludw dan wadnau eich traed chwi, yn y dydd y gwnelwyf hyn, medd Arglwydd y lluoedd.
4Cofiwch gyfraith Moses fy ngwas, yr hon a orchmynnais iddo ef yn Horeb i holl Israel, y deddfau a’r barnedigaethau.
5Wele, mi a anfonaf i chwi Eleias y proffwyd, cyn dyfod dydd mawr ac ofnadwy yr Arglwydd: 6Ac efe a dry galon y tadau at y plant, a chalon y plant at eu tadau; rhag i mi ddyfod a tharo y ddaear â melltith.
TERFYN Y PROFFWYDI

Dewis Presennol:

Malachi 4: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda