Yna y daeth mam meibion Sebedeus ato gyda’i meibion, gan addoli, a deisyf rhyw beth ganddo. Ac efe a ddywedodd wrthi, Pa beth a fynni? Dywedodd hithau wrtho, Dywed am gael o’m dau fab hyn eistedd, y naill ar dy law ddeau, a’r llall ar dy law aswy, yn dy frenhiniaeth. A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Ni wyddoch chwi beth yr ydych yn ei ofyn. A ellwch chwi yfed o’r cwpan yr ydwyf fi ar yfed ohono, a’ch bedyddio â’r bedydd y bedyddir fi? Dywedasant wrtho, Gallwn. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Diau yr yfwch o’m cwpan, ac y’ch bedyddir â’r bedydd y’m bedyddir ag ef: eithr eistedd ar fy llaw ddeau ac ar fy llaw aswy, nid eiddof ei roddi; ond i’r sawl y darparwyd gan fy Nhad. A phan glybu’r deg hyn, hwy a sorasant wrth y ddau frodyr. A’r Iesu a’u galwodd hwynt ato, ac a ddywedodd, Chwi a wyddoch fod penaethiaid y Cenhedloedd yn tra-arglwyddiaethu arnynt, a’r rhai mawrion yn tra-awdurdodi arnynt hwy. Eithr nid felly y bydd yn eich plith chwi: ond pwy bynnag a fynno fod yn fawr yn eich plith chwi, bydded yn weinidog i chwi; A phwy bynnag a fynno fod yn bennaf yn eich plith, bydded yn was i chwi
Darllen Mathew 20
Gwranda ar Mathew 20
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Mathew 20:20-27
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos