Dywedais hefyd, Gwrandewch, atolwg, penaethiaid Jacob, a thywysogion tŷ Israel: Onid i chwi y perthyn gwybod barn? Y rhai ydych yn casáu y da, ac yn hoffi y drwg, gan flingo eu croen oddi amdanynt, a’u cig oddi wrth eu hesgyrn; Y rhai hefyd a fwytânt gig fy mhobl, a’u croen a flingant oddi amdanynt, a’u hesgyrn a ddrylliant, ac a friwant, megis i’r crochan, ac fel cig yn y badell. Yna y llefant ar yr ARGLWYDD, ac nis etyb hwynt; efe a guddia ei wyneb oddi wrthynt y pryd hwnnw, fel y buant ddrwg yn eu gweithredoedd.
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am y proffwydi sydd yn cyfeiliorni fy mhobl, y rhai a frathant â’u dannedd, ac a lefant, Heddwch: a’r neb ni roddo yn eu pennau hwynt, darparant ryfel yn ei erbyn. Am hynny y bydd nos i chwi, fel na chaffoch weledigaeth; a thywyllwch i chwi, fel na chaffoch ddewiniaeth: yr haul hefyd a fachluda ar y proffwydi, a’r dydd a ddua arnynt. Yna y gweledyddion a gywilyddiant, a’r dewiniaid a waradwyddir; ie, pawb ohonynt a gaeant ar eu genau, am na rydd DUW ateb.
Ond yn ddiau llawn wyf fi o rym gan ysbryd yr ARGLWYDD, ac o farn a nerth, i ddangos ei anwiredd i Jacob, a’i bechod i Israel.