Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Marc 3

3
1Ac efe a aeth i mewn drachefn i’r synagog; ac yr oedd yno ddyn a chanddo law wedi gwywo. 2A hwy a’i gwyliasant ef, a iachâi efe ef ar y dydd Saboth; fel y cyhuddent ef. 3Ac efe a ddywedodd wrth y dyn yr oedd ganddo’r llaw wedi gwywo, Cyfod i’r canol. 4Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Ai rhydd gwneuthur da ar y dydd Saboth, ynteu gwneuthur drwg? cadw einioes, ai lladd? A hwy a dawsant â sôn. 5Ac wedi edrych arnynt o amgylch yn ddicllon, gan dristáu am galedrwydd eu calon hwynt, efe a ddywedodd wrth y dyn, Estyn allan dy law. Ac efe a’i hestynnodd: a’i law ef a wnaed yn iach fel y llall. 6A’r Phariseaid a aethant allan, ac a ymgyngorasant yn ebrwydd gyda’r Herodianiaid yn ei erbyn ef, pa fodd y difethent ef. 7A’r Iesu gyda’i ddisgyblion a giliodd tua’r môr: a lliaws mawr a’i canlynodd ef, o Galilea, ac o Jwdea, 8Ac o Jerwsalem, ac o Idumea, ac o’r tu hwnt i’r Iorddonen; a’r rhai o gylch Tyrus a Sidon, lliaws mawr, pan glywsant gymaint a wnaethai efe, a ddaethant ato. 9Ac efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion am fod llong yn barod iddo, oblegid y dyrfa, rhag iddynt ei wasgu ef. 10Canys efe a iachasai lawer, hyd oni phwysent arno, er mwyn cyffwrdd ag ef, cynifer ag oedd â phlâu arnynt. 11A’r ysbrydion aflan, pan welsant ef, a syrthiasant i lawr ger ei fron ef, ac a waeddasant, gan ddywedyd, Ti yw Mab Duw. 12Yntau a orchmynnodd iddynt yn gaeth, na chyhoeddent ef.
13Ac efe a esgynnodd i’r mynydd, ac a alwodd ato y rhai a fynnodd efe: a hwy a ddaethant ato. 14Ac efe a ordeiniodd ddeuddeg, fel y byddent gydag ef, ac fel y danfonai efe hwynt i bregethu; 15Ac i fod ganddynt awdurdod i iacháu clefydau, ac i fwrw allan gythreuliaid. 16Ac i Simon y rhoddes efe enw Pedr; 17Ac Iago fab Sebedeus, ac Ioan brawd Iago, (ac efe a roddes iddynt enwau, Boanerges; yr hyn yw, Meibion y daran;) 18Ac Andreas, a Philip, a Bartholomeus, a Mathew, a Thomas, ac Iago fab Alffeus, a Thadeus, a Simon y Canaanead, 19A Jwdas Iscariot, yr hwn hefyd a’i bradychodd ef. A hwy a ddaethant i dŷ. 20A’r dyrfa a ymgynullodd drachefn, fel na allent gymaint â bwyta bara. 21A phan glybu’r eiddo ef, hwy a aethant i’w ddal ef: canys dywedasant, Y mae ef allan o’i bwyll.
22A’r ysgrifenyddion, y rhai a ddaethent i waered o Jerwsalem, a ddywedasant fod Beelsebub ganddo, ac mai trwy bennaeth y cythreuliaid yr oedd efe yn bwrw allan gythreuliaid. 23Ac wedi iddo eu galw hwy ato, efe a ddywedodd wrthynt mewn damhegion, Pa fodd y gall Satan fwrw allan Satan? 24Ac o bydd teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun, ni ddichon y deyrnas honno sefyll. 25Ac o bydd tŷ wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun, ni ddichon y tŷ hwnnw sefyll. 26Ac os Satan a gyfyd yn ei erbyn ei hun, ac a fydd wedi ymrannu, ni all efe sefyll, eithr y mae iddo ddiwedd. 27Ni ddichon neb fyned i mewn i dŷ’r cadarn, ac ysbeilio ei ddodrefn ef, oni bydd iddo yn gyntaf rwymo’r cadarn; ac yna yr ysbeilia ei dŷ ef. 28Yn wir y dywedaf i chwi, y maddeuir pob pechod i feibion dynion, a pha gabledd bynnag a gablant: 29Eithr yr hwn a gablo yn erbyn yr Ysbryd Glân, ni chaiff faddeuant yn dragywydd, ond y mae yn euog o farn dragywydd: 30Am iddynt ddywedyd, Y mae ysbryd aflan ganddo.
31Daeth gan hynny ei frodyr ef a’i fam; a chan sefyll allan, hwy a anfonasant ato, gan ei alw ef. 32A’r bobl oedd yn eistedd o’i amgylch, ac a ddywedasant wrtho, Wele, y mae dy fam di a’th frodyr allan yn dy geisio. 33Ac efe a’u hatebodd hwynt, gan ddywedyd, Pwy yw fy mam i, neu fy mrodyr i? 34Ac wedi iddo edrych oddi amgylch ar y rhai oedd yn eistedd yn ei gylch, efe a ddywedodd, Wele fy mam i, a’m brodyr i. 35Canys pwy bynnag a wnelo ewyllys Duw, hwnnw yw fy mrawd i, a’m chwaer, a’m mam i.

Dewis Presennol:

Marc 3: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda