Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Numeri 29

29
1Ac yn y seithfed mis, ar y dydd cyntaf o’r mis, y bydd i chwi gymanfa sanctaidd; dim caethwaith nis gwnewch: dydd i ganu utgyrn fydd efe i chwi. 2Ac offrymwch offrwm poeth yn arogl peraidd i’r Arglwydd; un bustach ieuanc, un hwrdd, saith o ŵyn blwyddiaid perffaith-gwbl: 3A’u bwyd-offrwm o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew; tair degfed ran gyda bustach, a dwy ddegfed ran gyda hwrdd; 4Ac un ddegfed ran gyda phob oen, o’r saith oen: 5Ac un bwch geifr yn bech-aberth, i wneuthur cymod drosoch: 6Heblaw poethoffrwm y mis, a’i fwyd-offrwm, a’r poethoffrwm gwastadol, a’i fwyd-offrwm, a’u diod-offrwm hwynt, wrth eu defod hwynt, yn arogl peraidd, yn aberth tanllyd i’r Arglwydd.
7Ac ar y degfed dydd o’r seithfed mis hwn cymanfa sanctaidd fydd i chwi: yna cystuddiwch eich eneidiau: dim gwaith nis gwnewch ynddo. 8Ond offrymwch boethoffrwm i’r Arglwydd, yn arogl peraidd, un bustach ieuanc, un hwrdd, saith oen blwyddiaid: byddant berffaith-gwbl gennych. 9A’u bwyd-offrwm fydd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, tair degfed ran gyda bustach, a dwy ddegfed ran gyda hwrdd; 10Bob yn ddegfed ran gyda phob oen, o’r saith oen: 11Un bwch geifr yn bech-aberth; heblaw pech-aberth y cymod, a’r poethoffrwm gwastadol, a’i fwyd-offrwm, a’u diod-offrymau.
12Ac ar y pymthegfed dydd o’r seithfed mis, cymanfa sanctaidd fydd i chwi: dim caethwaith nis gwnewch; eithr cedwch ŵyl i’r Arglwydd saith niwrnod. 13Ac offrymwch offrwm poeth, aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd; tri ar ddeg o fustych ieuainc, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid: byddant berffaith-gwbl. 14A’u bwyd-offrwm fydd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew; tair degfed ran gyda phob bustach, o’r tri bustach ar ddeg; dwy ddegfed ran gyda phob hwrdd, o’r ddau hwrdd; 15A phob yn ddegfed ran gyda phob oen, o’r pedwar oen ar ddeg: 16Ac un bwch geifr yn bech-aberth; heblaw y poethoffrwm gwastadol, ei fwyd-offrwm, a’i ddiod-offrwm.
17Ac ar yr ail ddydd yr offrymwch ddeuddeng mustach ieuainc, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid, perffaith-gwbl. 18A’u bwyd-offrwm, a’u diod-offrwm, gyda’r bustych, gyda’r hyrddod, a chyda’r ŵyn, fydd yn ôl eu rhifedi, wrth y ddefod: 19Ac un bwch geifr, yn bech-aberth; heblaw y poethoffrwm gwastadol, a’i fwyd-offrwm a’u diod-offrymau.
20Ac ar y trydydd dydd, un bustach ar ddeg, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid, perffaith-gwbl: 21A’u bwyd-offrwm, a’u diod-offrwm, gyda’r bustych, gyda’r hyrddod, a chyda’r ŵyn, fydd yn ôl eu rhifedi, wrth y ddefod: 22Ac un bwch geifr yn bech-aberth; heblaw y poethoffrwm gwastadol, a’i fwyd-offrwm, a’i ddiod-offrwm.
23Ac ar y pedwerydd dydd, deng mustach, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid, perffaith-gwbl: 24Eu bwyd-offrwm, a’u diod-offrwm, gyda’r bustych, gyda’r hyrddod, a chyda’r ŵyn, fydd yn ôl eu rhifedi, wrth y ddefod: 25Ac un bwch geifr yn bech-aberth; heblaw y poethoffrwm gwastadol, ei fwyd-offrwm, a’i ddiod-offrwm.
26Ac ar y pumed dydd, naw bustach, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid, perffaith-gwbl. 27A’u bwyd-offrwm, a’u diod-offrwm, gyda’r bustych, gyda’r hyrddod, a chyda’r ŵyn, fydd yn ôl eu rhifedi, wrth y ddefod; 28Ac un bwch yn bech-aberth; heblaw y poethoffrwm gwastadol, a’i fwyd-offrwm, a’i ddiod-offrwm.
29Ac ar y chweched dydd, wyth o fustych, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid, perffaith-gwbl. 30A’u bwyd-offrwm, a’u diod-offrwm, gyda’r bustych, gyda’r hyrddod, a chyda’r ŵyn, fydd yn ôl eu rhifedi, wrth y ddefod: 31Ac un bwch yn bech-aberth; heblaw y poethoffrwm gwastadol, ei fwyd-offrwm, a’i ddiod-offrwm.
32Ac ar y seithfed dydd, saith o fustych, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid, perffaith-gwbl. 33A’u bwyd-offrwm, a’u diod-offrwm, gyda’r bustych, gyda’r hyrddod, a chyda’r ŵyn, fydd yn ôl eu rhifedi, wrth eu defod: 34Ac un bwch yn bech-aberth; heblaw y poethoffrwm gwastadol, ei fwyd-offrwm, a’i ddiod-offrwm.
35Ar yr wythfed dydd, uchel ŵyl fydd i chwi: dim caethwaith nis gwnewch ynddo. 36Ond offrymwch offrwm poeth, aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd; un bustach, un hwrdd, saith o ŵyn blwyddiaid, perffaith-gwbl. 37Eu bwyd-offrwm, a’u diod-offrwm, gyda’r bustach, a chyda’r hwrdd, a chyda’r ŵyn, fydd yn ôl eu rhifedi, wrth y ddefod: 38Ac un bwch yn bech-aberth: heblaw y poethoffrwm gwastadol, ei fwyd-offrwm, a’i ddiod-offrwm. 39Hyn a wnewch i’r Arglwydd ar eich gwyliau; heblaw eich addunedau, a’ch offrymau gwirfodd, gyda’ch offrymau poeth, a’ch offrymau bwyd, a’ch offrymau diod, a’ch offrymau hedd. 40A dywedodd Moses wrth feibion Israel yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.

Dewis Presennol:

Numeri 29: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda