Numeri 31
31
1A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 2Dial feibion Israel ar y Midianiaid: wedi hynny ti a gesglir at dy bobl. 3A llefarodd Moses wrth y bobl, gan ddywedyd, Arfogwch ohonoch wŷr i’r rhyfel, ac ânt yn erbyn Midian, i roddi dial yr Arglwydd ar Midian. 4Mil o bob llwyth, o holl lwythau Israel, a anfonwch i’r rhyfel. 5A rhoddasant o filoedd Israel fil o bob llwyth, sef deuddeng mil, o rai wedi eu harfogi i’r rhyfel. 6Ac anfonodd Moses hwynt i’r rhyfel, mil o bob llwyth: hwynt a Phinees mab Eleasar yr offeiriad, a anfonodd efe i’r rhyfel, â dodrefn y cysegr, a’r utgyrn i utganu yn ei law. 7A hwy a ryfelasant yn erbyn Midian, megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses; ac a laddasant bob gwryw. 8Brenhinoedd Midian hefyd a laddasant hwy, gyda’u lladdedigion eraill: sef Efi, a Recem, a Sur, a Hur, a Reba, pum brenin Midian: Balaam hefyd mab Beor a laddasant hwy â’r cleddyf. 9Meibion Israel a ddaliasant hefyd yn garcharorion wragedd Midian, a’u plant; ac a ysbeiliasant eu holl anifeiliaid hwynt, a’u holl dda hwynt, a’u holl olud hwynt. 10Eu holl ddinasoedd hefyd trwy eu trigfannau, a’u holl dyrau, a losgasant â thân. 11A chymerasant yr holl ysbail, a’r holl gaffaeliad, o ddyn ac o anifail. 12Ac a ddygasant at Moses, ac at Eleasar yr offeiriad, ac at gynulleidfa meibion Israel, y carcharorion, a’r caffaeliad, a’r ysbail, i’r gwersyll, yn rhosydd Moab, y rhai ydynt wrth yr Iorddonen, ar gyfer Jericho.
13Yna Moses ac Eleasar yr offeiriad, a holl benaduriaid y gynulleidfa, a aethant i’w cyfarfod hwynt o’r tu allan i’r gwersyll 14A digiodd Moses wrth swyddogion y fyddin, capteiniaid y miloedd, a chapteiniaid y cannoedd, y rhai a ddaethant o frwydr y rhyfel. 15A dywedodd Moses wrthynt, A adawsoch chwi bob benyw yn fyw? 16Wele, hwynt, trwy air Balaam, a barasant i feibion Israel wneuthur camwedd yn erbyn yr Arglwydd yn achos Peor; a bu pla yng nghynulleidfa yr Arglwydd. 17Am hynny lleddwch yn awr bob gwryw o blentyn; a lleddwch bob benyw a fu iddi a wnaeth â gŵr, trwy orwedd gydag ef. 18A phob plentyn o’r benywaid y rhai ni bu iddynt a wnaethant â gŵr, cedwch yn fyw i chwi. 19Ac arhoswch chwithau o’r tu allan i’r gwersyll saith niwrnod: pob un a laddodd ddyn, a phob un a gyffyrddodd wrth laddedig, ymlanhewch y trydydd dydd, a’r seithfed dydd, chwi a’ch carcharorion. 20Pob gwisg hefyd, a phob dodrefnyn croen, a phob gwaith o flew geifr, a phob llestr pren, a lanhewch chwi.
21A dywedodd Eleasar yr offeiriad wrth y rhyfelwyr y rhai a aethant i’r rhyfel, Dyma ddeddf y gyfraith a orchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses: 22Yn unig yr aur, a’r arian, y pres, yr haearn, yr alcam, a’r plwm; 23Pob dim a ddioddefo dân, a dynnwch trwy’r tân, a glân fydd; ac eto efe a lanheir â’r dwfr neilltuaeth: a’r hyn oll ni ddioddefo dân, tynnwch trwy y dwfr yn unig. 24A golchwch eich gwisgoedd ar y seithfed dydd, a glân fyddwch; ac wedi hynny deuwch i’r gwersyll.
25A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 26Cymer nifer yr ysbail a gaed, o ddyn ac o anifail, ti ac Eleasar yr offeiriad, a phennau-cenedl y gynulleidfa: 27A rhanna’r caffaeliad yn ddwy ran; rhwng y rhyfelwyr a aethant i’r filwriaeth, a’r holl gynulleidfa. 28A chyfod deyrnged i’r Arglwydd gan y rhyfelwyr y rhai a aethant allan i’r filwriaeth; un enaid o bob pum cant o’r dynion, ac o’r eidionau, ac o’r asynnod, ac o’r defaid. 29Cymerwch hyn o’u hanner hwynt, a dyro i Eleasar yr offeiriad, yn ddyrchafael-offrwm yr Arglwydd. 30Ac o hanner meibion Israel y cymeri un rhan o bob deg a deugain, o’r dynion, o’r eidionau, o’r asynnod, ac o’r defaid, ac o bob anifail, a dod hwynt i’r Lefiaid, y rhai ydynt yn cadw cadwraeth tabernacl yr Arglwydd. 31A gwnaeth Moses ac Eleasar yr offeiriad megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses. 32A’r caffaeliad, sef gweddill yr ysbail yr hon a ddygasai pobl y filwriaeth, oedd chwe chan mil a phymtheg a thrigain o filoedd o ddefaid, 33A deuddeg a thrigain mil o eidionau, 34Ac un fil a thrigain o asynnod, 35Ac o ddynion, o fenywaid ni buasai iddynt a wnaethant â gŵr, trwy orwedd gydag ef, ddeuddeng mil ar hugain o eneidiau. 36A’r hanner, sef rhan y rhai a aethant i’r rhyfel, oedd, o rifedi defaid, dri chan mil a dwy ar bymtheg ar hugain o filoedd, a phum cant; 37A theyrnged yr Arglwydd o’r defaid oedd chwe chant a phymtheg a thrigain. 38A’r eidionau oedd un fil ar bymtheg ar hugain; a’u teyrnged i’r Arglwydd oedd ddeuddeg a thrigain. 39A’r asynnod oedd ddeng mil ar hugain a phum cant; a’u teyrnged i’r Arglwydd oedd un a thrigain. 40A’r dynion oedd un fil ar bymtheg; a’u teyrnged i’r Arglwydd oedd ddeuddeg enaid ar hugain. 41A Moses a roddodd deyrnged offrwm dyrchafael yr Arglwydd i Eleasar yr offeiriad, megis y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses. 42Ac o ran meibion Israel, yr hon a ranasai Moses oddi wrth y milwyr, 43Sef rhan y gynulleidfa o’r defaid, oedd dri chan mil a dwy ar bymtheg ar hugain o filoedd, a phum cant; 44Ac o’r eidionau, un fil ar bymtheg ar hugain; 45Ac o’r asynnod, deng mil ar hugain a phum cant; 46Ac o’r dynion, un fil ar bymtheg. 47Ie, cymerodd Moses o hanner meibion Israel, un rhan o bob deg a deugain, o’r dynion, ac o’r anifeiliaid, ac a’u rhoddes hwynt i’r Lefiaid oedd yn cadw cadwraeth tabernacl yr Arglwydd; megis y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.
48A’r swyddogion, y rhai oedd ar filoedd y llu, a ddaethant at Moses, sef capteiniaid y miloedd a chapteiniaid y cannoedd: 49A dywedasant wrth Moses, Dy weision a gymerasant nifer y gwŷr o ryfel a roddaist dan ein dwylo ni; ac nid oes ŵr yn eisiau ohonom. 50Am hynny yr ydym yn offrymu offrwm i’r Arglwydd, pob un yr hyn a gafodd, yn offerynnau aur, yn gadwynau, yn freichledau, yn fodrwyau, yn glustlysau, ac yn dorchau, i wneuthur cymod dros ein heneidiau gerbron yr Arglwydd. 51A chymerodd Moses ac Eleasar yr offeiriad yr aur ganddynt, y dodrefn gweithgar oll. 52Ac yr ydoedd holl aur yr offrwm dyrchafael, yr hwn a offrymasant i’r Arglwydd, oddi wrth gapteiniaid y miloedd, ac oddi wrth gapteiniaid y cannoedd, yn un fil ar bymtheg saith gant a deg a deugain o siclau. 53(Ysbeiliasai y gwŷr o ryfel bob un iddo ei hun.) 54A chymerodd Moses ac Eleasar yr offeiriad yr aur gan gapteiniaid y miloedd a’r cannoedd, ac a’i dygasant i babell y cyfarfod, yn goffadwriaeth dros feibion Israel gerbron yr Arglwydd.
Dewis Presennol:
Numeri 31: BWM
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.

: