Eithr y pethau oedd elw i mi, y rhai hynny a gyfrifais i yn golled er mwyn Crist. Ie, yn ddiamau, yr wyf hefyd yn cyfrif pob peth yn golled oherwydd ardderchowgrwydd gwybodaeth Crist Iesu fy Arglwydd: er mwyn yr hwn y’m colledwyd ym mhob peth, ac yr wyf yn eu cyfrif yn dom, fel yr enillwyf Grist, Ac y’m ceir ynddo ef heb fy nghyfiawnder fy hun, yr hwn sydd o’r gyfraith, ond yr hwn sydd trwy ffydd Crist, sef y cyfiawnder sydd o Dduw trwy ffydd: Fel yr adnabyddwyf ef, a grym ei atgyfodiad ef, a chymdeithas ei ddioddefiadau ef, gan fod wedi fy nghydffurfio â’i farwolaeth ef; Os mewn un modd y gallwn gyrhaeddyd atgyfodiad y meirw
Darllen Philipiaid 3
Gwranda ar Philipiaid 3
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Philipiaid 3:7-11
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos