Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Diarhebion 31:10-31

Diarhebion 31:10-31 BWM

Pwy a fedr gael gwraig rinweddol? gwerthfawrocach yw hi na’r carbuncl. Calon ei gŵr a ymddiried ynddi, fel na bydd arno eisiau anrhaith. Hi a wna iddo les, ac nid drwg, holl ddyddiau ei bywyd. Hi a gais wlân a llin, ac a’i gweithia â’i dwylo yn ewyllysgar. Tebyg yw hi i long marsiandwr; hi a ddwg ei hymborth o bell. Hi a gyfyd hefyd liw nos, ac a rydd fwyd i’w thylwyth, a’u dogn i’w llancesau. Hi a feddwl am faes, ac a’i prŷn ef; â gwaith ei dwylo hi a blanna winllan. Hi a wregysa ei llwynau â nerth, ac a gryfha ei breichiau. Hi a wêl fod ei marsiandïaeth yn fuddiol; ni ddiffydd ei channwyll ar hyd y nos. Hi a rydd ei llaw ar y werthyd, a’i llaw a ddeil y cogail. Hi a egyr ei llaw i’r tlawd, ac a estyn ei dwylo i’r anghenus. Nid ofna hi am ei thylwyth rhag yr eira; canys ei holl dŷ hi a ddilledir ag ysgarlad. Hi a weithia iddi ei hun garpedau; ei gwisg yw sidan a phorffor. Hynod yw ei gŵr hi yn y pyrth, pan eisteddo gyda henuriaid y wlad. Hi a wna liain main, ac a’i gwerth, ac a rydd wregysau at y marsiandwr. Nerth ac anrhydedd yw ei gwisg; ac yn yr amser a ddaw hi a chwardd. Hi a egyr ei genau yn ddoeth: a chyfraith trugaredd sydd ar ei thafod hi. Hi a graffa ar ffyrdd tylwyth ei thŷ: ac ni fwyty hi fara seguryd. Ei phlant a godant, ac a’i galwant yn ddedwydd; ei gŵr hefyd, ac a’i canmol hi: Llawer merch a weithiodd yn rymus; ond ti a ragoraist arnynt oll. Siomedig yw ffafr, ac ofer yw tegwch; ond benyw yn ofni yr ARGLWYDD, hi a gaiff glod. Rhoddwch iddi o ffrwyth ei dwylo; a chanmoled ei gweithredoedd hi yn y pyrth.