Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 114

114
SALM 114
1Pan aeth Israel o’r Aifft, tŷ Jacob oddi wrth bobl anghyfiaith;
2Jwda oedd ei sancteiddrwydd, ac Israel ei arglwyddiaeth.
3Y môr a welodd hyn, ac a giliodd; yr Iorddonen a drodd yn ôl.
4Y mynyddoedd a neidiasant fel hyrddod, a’r bryniau fel ŵyn defaid.
5Beth ddarfu i ti, O fôr, pan giliaist? tithau Iorddonen, paham y troaist yn ôl?
6Paham, fynyddoedd, y neidiech fel hyrddod? a’r bryniau fel ŵyn defaid?
7Ofna, di ddaear, rhag yr Arglwydd, rhag Duw Jacob:
8Yr hwn sydd yn troi y graig yn llyn dwfr, a’r gallestr yn ffynnon dyfroedd.

Dewis Presennol:

Y Salmau 114: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda