Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 120

120
SALM 120
Caniad y graddau.
1Ar yr Arglwydd y gwaeddais yn fy nghyfyngder, ac efe a’m gwrandawodd i.
2 Arglwydd, gwared fy enaid oddi wrth wefusau celwyddog, ac oddi wrth dafod twyllodrus.
3Beth a roddir i ti? neu pa beth a wneir i ti, dydi dafod twyllodrus?
4Llymion saethau cawr, ynghyd â marwor meryw.
5Gwae fi, fy mod yn preswylio ym Mesech, yn cyfanheddu ym mhebyll Cedar.
6Hir y trigodd fy enaid gyda’r hwn oedd yn casáu tangnefedd.
7Heddychol ydwyf fi: ond pan lefarwyf, y maent yn barod i ryfel.

Dewis Presennol:

Y Salmau 120: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda