Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 122

122
SALM 122
Caniad y graddau, o’r eiddo Dafydd.
1Llawenychais pan ddywedent wrthyf, Awn i dŷ yr Arglwydd.
2Ein traed a safant o fewn dy byrth di, O Jerwsalem.
3Jerwsalem a adeiladwyd fel dinas wedi ei chydgysylltu ynddi ei hun.
4Yno yr esgyn y llwythau, llwythau yr Arglwydd, yn dystiolaeth i Israel, i foliannu enw yr Arglwydd.
5Canys yno y gosodwyd gorseddfeinciau barn, gorseddfeinciau tŷ Dafydd.
6Dymunwch heddwch Jerwsalem: llwydded y rhai a’th hoffant.
7Heddwch fyddo o fewn dy ragfur, a ffyniant yn dy balasau.
8Er mwyn fy mrodyr a’m cyfeillion y dywedaf yn awr, Heddwch fyddo i ti.
9Er mwyn tŷ yr Arglwydd ein Duw, y ceisiaf i ti ddaioni.

Dewis Presennol:

Y Salmau 122: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda