Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 126

126
SALM 126
Caniad y graddau.
1Pan ddychwelodd yr Arglwydd gaethiwed Seion, yr oeddem fel rhai yn breuddwydio.
2Yna y llanwyd ein genau â chwerthin, a’n tafod â chanu: yna y dywedasant ymysg y cenhedloedd, Yr Arglwydd a wnaeth bethau mawrion i’r rhai hyn.
3Yr Arglwydd a wnaeth i ni bethau mawrion; am hynny yr ydym yn llawen.
4Dychwel, Arglwydd, ein caethiwed ni, fel yr afonydd yn y deau.
5Y rhai sydd yn hau mewn dagrau, a fedant mewn gorfoledd.
6Yr hwn sydd yn myned rhagddo, ac yn wylo, gan ddwyn had gwerthfawr, gan ddyfod a ddaw mewn gorfoledd, dan gludo ei ysgubau.

Dewis Presennol:

Y Salmau 126: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda