Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 138

138
SALM 138
Salm Dafydd.
1Clodforaf di â’m holl galon: yng ngŵydd y duwiau y canaf i ti.
2Ymgrymaf tua’th deml sanctaidd, a chlodforaf dy enw, am dy drugaredd a’th wirionedd: oblegid ti a fawrheaist dy air uwchlaw dy enw oll.
3Y dydd y llefais, y’m gwrandewaist; ac a’m cadarnheaist â nerth yn fy enaid.
4Holl frenhinoedd y ddaear a’th glodforant, O Arglwydd, pan glywant eiriau dy enau.
5Canant hefyd am ffyrdd yr Arglwydd: canys mawr yw gogoniant yr Arglwydd.
6Er bod yr Arglwydd yn uchel, eto efe a edrych ar yr isel: ond y balch a edwyn efe o hirbell.
7Pe rhodiwn yng nghanol cyfyngder, ti a’m bywheit: estynnit dy law yn erbyn digofaint fy ngelynion, a’th ddeheulaw a’m hachubai.
8Yr Arglwydd a gyflawna â mi: dy drugaredd, Arglwydd, sydd yn dragywydd: nac esgeulusa waith dy ddwylo.

Dewis Presennol:

Y Salmau 138: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda