Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 57

57
SALM 57
I’r Pencerdd, Al-taschith, Michtam Dafydd, pan ffodd rhag Saul i’r ogof.
1Trugarha wrthyf, O Dduw, trugarha wrthyf: canys ynot y gobeithiodd fy enaid; ie, yng nghysgod dy adenydd y gobeithiaf, hyd onid êl yr aflwydd hwn heibio.
2Galwaf ar Dduw Goruchaf; ar Dduw a gwblha â mi.
3Efe a enfyn o’r nefoedd, ac a’m gwared oddi wrth warthrudd yr hwn a’m llyncai. Sela. Denfyn Duw ei drugaredd a’i wirionedd.
4Fy enaid sydd ymysg llewod: gorwedd yr wyf ymysg dynion poethion, sef meibion dynion, y rhai y mae eu dannedd yn waywffyn a saethau, a’u tafod yn gleddyf llym.
5Ymddyrcha, Dduw, uwch y nefoedd; a bydded dy ogoniant ar yr holl ddaear.
6Darparasant rwyd i’m traed; crymwyd fy enaid; cloddiasant bydew o’m blaen; syrthiasant yn ei ganol. Sela.
7Parod yw fy nghalon, O Dduw, parod yw fy nghalon: canaf a chanmolaf.
8Deffro, fy ngogoniant; deffro, nabl a thelyn: deffroaf yn fore.
9Clodforaf di, Arglwydd, ymysg y bobloedd: canmolaf di ymysg y cenhedloedd.
10Canys mawr yw dy drugaredd hyd y nefoedd, a’th wirionedd hyd y cymylau.
11Ymddyrcha, Dduw, uwch y nefoedd; a bydded dy ogoniant ar yr holl ddaear.

Dewis Presennol:

Y Salmau 57: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda