Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 6

6
SALM 6
I’r Pencerdd ar Neginoth ar y Seminith, Salm Dafydd.
1 Arglwydd, na cherydda fi yn dy lidiowgrwydd, ac na chosba fi yn dy lid.
2Trugarha wrthyf, Arglwydd: canys llesg ydwyf fi: iachâ fi, O Arglwydd; canys fy esgyrn a gystuddiwyd.
3A’m henaid a ddychrynwyd yn ddirfawr: tithau, Arglwydd, pa hyd?
4Dychwel, Arglwydd, gwared fy enaid: achub fi er mwyn dy drugaredd.
5Canys yn angau nid oes goffa amdanat: yn y bedd pwy a’th folianna?
6Diffygiais gan fy ochain; bob nos yr ydwyf yn gwneuthur fy ngwely yn foddfa: yr ydwyf fi yn gwlychu fy ngorweddfa â’m dagrau.
7Treuliodd fy llygad gan ddicter: heneiddiodd oherwydd fy holl elynion.
8Ciliwch oddi wrthyf, holl weithredwyr anwiredd: canys yr Arglwydd a glywodd lef fy wylofain.
9Clybu yr Arglwydd fy neisyfiad: yr Arglwydd a dderbyn fy ngweddi.
10Gwaradwydder a thralloder yn ddirfawr fy holl elynion: dychweler a chywilyddier hwynt yn ddisymwth.

Dewis Presennol:

Y Salmau 6: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda