Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 72

72
SALM 72
Salm i Solomon.
1O Dduw, dod i’r Brenin dy farnedigaethau, ac i fab y Brenin dy gyfiawnder.
2Efe a farn dy bobl mewn cyfiawnder, a’th drueiniaid â barn.
3Y mynyddoedd a ddygant heddwch i’r bobl, a’r bryniau, trwy gyfiawnder.
4Efe a farn drueiniaid y bobl, efe a achub feibion yr anghenus, ac a ddryllia y gorthrymydd.
5Tra fyddo haul a lleuad y’th ofnant, yn oes oesoedd.
6Efe a ddisgyn fel glaw ar gnu gwlân; fel cawodydd yn dyfrhau y ddaear.
7Yn ei ddyddiau ef y blodeua y cyfiawn; ac amlder o heddwch fydd tra fyddo lleuad.
8Ac efe a lywodraetha o fôr hyd fôr, ac o’r afon hyd derfynau y ddaear.
9O’i flaen ef yr ymgryma trigolion yr anialwch: a’i elynion a lyfant y llwch.
10Brenhinoedd Tarsis a’r ynysoedd a dalant anrheg: brenhinoedd Sheba a Seba a ddygant rodd.
11Ie, yr holl frenhinoedd a ymgrymant iddo: yr holl genhedloedd a’i gwasanaethant ef.
12Canys efe a wared yr anghenog pan waeddo: y truan hefyd, a’r hwn ni byddo cynorthwywr iddo.
13Efe a arbed y tlawd a’r rheidus, ac a achub eneidiau y rhai anghenus.
14Efe a wared eu henaid oddi wrth dwyll a thrawster: a gwerthfawr fydd eu gwaed yn ei olwg ef.
15Byw hefyd fydd efe, a rhoddir iddo o aur Seba: gweddïant hefyd drosto ef yn wastad: beunydd y clodforir ef.
16Bydd dyrnaid o ŷd ar y ddaear ym mhen y mynyddoedd: ei ffrwyth a ysgwyd fel Libanus; a phobl y ddinas a flodeuant fel gwellt y ddaear.
17Ei enw fydd yn dragywydd: ei enw a bery tra fyddo haul; ac ymfendithiant ynddo: yr holl genhedloedd a’i galwant yn wynfydedig.
18Bendigedig fyddo yr Arglwydd Dduw, Duw Israel, yr hwn yn unig sydd yn gwneuthur rhyfeddodau.
19Bendigedig hefyd fyddo ei enw gogoneddus ef yn dragywydd; a’r holl ddaear a lanwer o’i ogoniant. Amen, ac Amen.
20Gorffen gweddïau Dafydd mab Jesse.

Dewis Presennol:

Y Salmau 72: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda