Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 74

74
SALM 74
Maschil Asaff.
1Paham, Dduw, y’n bwriaist heibio yn dragywydd, ac y myga dy ddigofaint yn erbyn defaid dy borfa?
2Cofia dy gynulleidfa, yr hon a brynaist gynt; a llwyth dy etifeddiaeth, yr hwn a waredaist; mynydd Seion hwn, y preswyli ynddo.
3Dyrcha dy draed at anrhaith dragwyddol; sef at yr holl ddrwg a wnaeth y gelyn yn y cysegr.
4Dy elynion a ruasant yng nghanol dy gynulleidfaoedd; gosodasant eu banerau yn arwyddion.
5Hynod oedd gŵr, fel y codasai fwyeill mewn drysgoed.
6Ond yn awr y maent yn dryllio ei cherfiadau ar unwaith â bwyeill ac â morthwylion.
7Bwriasant dy gysegroedd yn tân; hyd lawr yr halogasant breswylfa dy enw.
8Dywedasant yn eu calonnau, Cydanrheithiwn hwynt: llosgasant holl synagogau Duw yn y tir.
9Ni welwn ein harwyddion: nid oes broffwyd mwy, nid oes gennym a ŵyr pa hyd.
10Pa hyd, Dduw, y gwarthrudda y gwrthwynebwr? a gabla y gelyn dy enw yn dragywydd?
11Paham y tynni yn ei hôl dy law, sef dy ddeheulaw? tyn hi allan o ganol dy fynwes.
12Canys Duw yw fy Mrenin o’r dechreuad, gwneuthurwr iachawdwriaeth o fewn y tir.
13Ti yn dy nerth a berthaist y môr: drylliaist bennau dreigiau yn y dyfroedd.
14Ti a ddrylliaist ben lefiathan; rhoddaist ef yn fwyd i’r bobl yn yr anialwch.
15Ti a holltaist y ffynnon a’r afon; ti a ddihysbyddaist afonydd cryfion.
16Y dydd sydd eiddot ti, y nos hefyd sydd eiddot ti: ti a baratoaist oleuni a haul.
17Ti a osodaist holl derfynau y ddaear: ti a luniaist haf a gaeaf.
18Cofia hyn, i’r gelyn gablu, O Arglwydd, ac i’r bobl ynfyd ddifenwi dy enw.
19Na ddyro enaid dy durtur i gynulleidfa y gelynion: nac anghofia gynulleidfa dy drueiniaid byth.
20Edrych ar y cyfamod: canys llawn yw tywyll leoedd y ddaear o drigfannau trawster.
21Na ddychweled y tlawd yn waradwyddus: molianned y truan a’r anghenus dy enw.
22Cyfod, O Dduw, dadlau dy ddadl: cofia dy waradwydd gan yr ynfyd beunydd.
23Nac anghofia lais dy elynion: dadwrdd y rhai a godant i’th erbyn sydd yn dringo yn wastadol.

Dewis Presennol:

Y Salmau 74: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda