Y Salmau 98
98
SALM 98
Salm.
1Cenwch i’r Arglwydd ganiad newydd: canys efe a wnaeth bethau rhyfedd: ei ddeheulaw a’i fraich sanctaidd a barodd iddo fuddugoliaeth.
2Hysbysodd yr Arglwydd ei iachawdwriaeth: datguddiodd ei gyfiawnder yng ngolwg y cenhedloedd.
3Cofiodd ei drugaredd a’i wirionedd i dŷ Israel: holl derfynau y ddaear a welsant iachawdwriaeth ein Duw ni.
4Cenwch yn llafar i’r Arglwydd, yr holl ddaear: llefwch, ac ymlawenhewch, a chenwch.
5Cenwch i’r Arglwydd gyda’r delyn; gyda’r delyn, a llef salm.
6Ar utgyrn a sain cornet, cenwch yn llafar o flaen yr Arglwydd y Brenin.
7Rhued y môr a’i gyflawnder; y byd a’r rhai a drigant o’i fewn.
8Cured y llifeiriaint eu dwylo; a chydganed y mynyddoedd
9O flaen yr Arglwydd; canys y mae yn dyfod i farnu y ddaear: efe a farna y byd â chyfiawnder, a’r bobloedd ag uniondeb.
Dewis Presennol:
Y Salmau 98: BWM
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.

: