Rhufeiniaid 15:1-7
Rhufeiniaid 15:1-7 BWM
A nyni y rhai ydym gryfion, a ddylem gynnal gwendid y rhai gweiniaid, ac nid rhyngu ein bodd ein hunain. Boddhaed pob un ohonom ei gymydog yn yr hyn sydd dda iddo er adeiladaeth. Canys Crist nis boddhaodd ef ei hun; eithr, megis y mae yn ysgrifenedig, Gwaradwyddiadau y rhai a’th waradwyddent di, a syrthiasant arnaf fi. Canys pa bethau bynnag a ysgrifennwyd o’r blaen, er addysg i ni yr ysgrifennwyd hwynt; fel trwy amynedd a diddanwch yr ysgrythurau, y gallem gael gobaith. A Duw yr amynedd a’r diddanwch a roddo i chwi synied yr un peth tuag at eich gilydd yn ôl Crist Iesu: Fel y galloch yn unfryd, o un genau, ogoneddu Duw, a Thad ein Harglwydd Iesu Grist. Oherwydd paham derbyniwch eich gilydd, megis ag y derbyniodd Crist ninnau i ogoniant Duw.

