Ac yr awr hon yr eglurwyd cyfiawnder Duw heb y ddeddf, wrth gael tystiolaeth gan y ddeddf a’r proffwydi; Sef cyfiawnder Duw, yr hwn sydd trwy ffydd Iesu Grist, i bawb ac ar bawb a gredant: canys nid oes gwahaniaeth: Oblegid pawb a bechasant, ac ydynt yn ôl am ogoniant Duw; A hwy wedi eu cyfiawnhau yn rhad trwy ei ras ef, trwy’r prynedigaeth sydd yng Nghrist Iesu: Yr hwn a osododd Duw yn iawn, trwy ffydd yn ei waed ef, i ddangos ei gyfiawnder ef, trwy faddeuant y pechodau a wnaethid o’r blaen, trwy ddioddefgarwch Duw; I ddangos ei gyfiawnder ef y pryd hwn; fel y byddai efe yn gyfiawn, ac yn cyfiawnhau y neb sydd o ffydd Iesu. Pa le gan hynny y mae y gorfoledd? Efe a gaewyd allan. Trwy ba ddeddf? ai deddf gweithredoedd? Nage; eithr trwy ddeddf ffydd. Yr ydym ni gan hynny yn cyfrif mai trwy ffydd y cyfiawnheir dyn, heb weithredoedd y ddeddf. Ai i’r Iddewon y mae efe yn Dduw yn unig? onid yw i’r Cenhedloedd hefyd? Yn wir y mae efe i’r Cenhedloedd hefyd: Gan mai un Duw sydd, yr hwn a gyfiawnha’r enwaediad wrth ffydd, a’r dienwaediad trwy ffydd. Wrth hynny, a ydym ni yn gwneuthur y ddeddf yn ddi-rym trwy ffydd? Na ato Duw: eithr yr ydym yn cadarnhau’r ddeddf.
Darllen Rhufeiniaid 3
Gwranda ar Rhufeiniaid 3
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Rhufeiniaid 3:21-31
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos