Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Caniad Solomon 4

4
1Wele di yn deg, fy anwylyd, wele di yn deg; dy lygaid ydynt golomennaidd rhwng dy lywethau; dy wallt sydd fel diadell o eifr, y rhai a ymddangosant o fynydd Gilead. 2Dy ddannedd sydd fel diadell o ddefaid gwastatgnaif, y rhai a ddaethant i fyny o’r olchfa; y rhai oeddynt bob un yn dwyn dau oen, ac nid oedd un ynddynt yn ddiepil. 3Dy wefusau sydd fel edau ysgarlad, a’th barabl yn weddus: dy arleisiau rhwng dy lywethau sydd fel darn o bomgranad. 4Dy wddf sydd fel tŵr Dafydd, yr hwn a adeiladwyd yn dŷ arfau; tarianau fil sydd yn crogi ynddo, i gyd yn estylch y cedyrn. 5Dy ddwy fron sydd fel dau lwdn iwrch o efeilliaid yn pori ymysg lili. 6Hyd oni wawrio’r dydd, a chilio o’r cysgodau, af i fynydd y myrr, ac i fryn y thus. 7Ti oll ydwyt deg, fy anwylyd; ac nid oes ynot frycheuyn.
8Tyred gyda mi o Libanus, fy nyweddi, gyda mi o Libanus: edrych o ben Amana, o gopa Senir a Hermon, o lochesau y llewod, o fynyddoedd y llewpardiaid. 9Dygaist fy nghalon, fy chwaer a’m dyweddi; dygaist fy nghalon ag un o’th lygaid, ag un gadwyn wrth dy wddf. 10Mor deg yw dy gariad, fy chwaer, a’m dyweddi! pa faint gwell yw dy gariad na gwin, ac arogl dy olew na’r holl beraroglau! 11Dy wefusau, fy nyweddi, sydd yn diferu fel dil mêl: y mae mêl a llaeth dan dy dafod, ac arogl dy wisgoedd fel arogl Libanus. 12Gardd gaeëdig yw fy chwaer, a’m dyweddi: ffynnon gloëdig, ffynnon seliedig yw. 13Dy blanhigion sydd berllan o bomgranadau, a ffrwyth peraidd, camffir, a nardus; 14Ie, nardus a saffrwn, calamus a sinamon, a phob pren thus, myrr, ac aloes, ynghyd â phob rhagorol berlysiau: 15Ffynnon y gerddi, ffynnon y dyfroedd byw, a ffrydiau o Libanus.
16Deffro di, ogleddwynt, a thyred, ddeheuwynt, chwyth ar fy ngardd, fel y gwasgarer ei pheraroglau: deued fy anwylyd i’w ardd, a bwytaed ei ffrwyth peraidd ei hun.

Dewis Presennol:

Caniad Solomon 4: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda