Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 16

16
1“Hyn a ddywedais wrthych rhag eich maglu: 2torrant chwi allan o’r synagog, ac yn wir mae’r adeg yn dyfod i bob un a’ch lladdo dybied ei fod yn dwyn offrwm i Dduw. 3A hyn a wnânt am eu bod heb adnabod y tad na minnau. 4A’r pethau hyn a ddywedais wrthych er mwyn i chwi eu cofio, pan ddaw eu hadeg, fy mod wedi eu dywedyd wrthych. Nis dywedais hwynt wrthych ar y dechreu, am fy mod gyda chwi. 5Ond yn awr yr wyf yn myned at yr hwn a’m hanfonodd, ac nid oes neb ohonoch yn gofyn i mi, ‘I ba le yr ei?’, 6ond am fy mod wedi dywedyd hyn wrthych, y mae’r tristwch wedi llenwi eich calon. 7Ond yr wyf i’n dywedyd y gwir wrthych; y mae’n lles i chwi fy myned i ymaith, canys onid af, ni ddaw eich plaid atoch. Ond os af, anfonaf ef atoch. 8A phan ddaw hwnnw, fe brawf gyfeiliorni o’r byd am bechod, am gyfiawnder ac am farn. 9Am bechod am nad ydynt yn credu ynof i; 10am gyfiawnder am fy mod yn myned at y tad ac ni’m gwelwch mwy; 11ac am farn, am fod pennaeth y byd hwn wedi ei farnu. 12Llawer eto o bethau sydd gennyf i’w dywedyd wrthych, ond ni ellwch eu dal yn awr; 13ond pan ddaw hwnnw, ysbryd y gwirionedd, fe’ch tywys i’r holl wirionedd, oherwydd ni sieryd ohono ei hun, ond yr hyn a glyw a sieryd, ac fe hysbysa i chwi y pethau sy’n dyfod. 14Hwnnw a’m gogonedda i, oherwydd bydd yn cymryd o’m heiddo i ac yn ei hysbysu i chwi. 15Eiddof i y cwbl sydd gan y tad; dyna paham y dywedais ei fod yn cymryd o’m heiddo i ac y bydd yn ei hysbysu i chwi. 16Ychydig amser ac ni’m gwelwch mwy, ac ychydig amser wedyn, a chwi a’m gwelwch.” 17Felly dywedodd rhai o’i ddisgyblion wrth ei gilydd: “Beth yw hyn a ddywed wrthym? — ‘Ychydig amser ac ni’m gwelwch, ac ychydig amser wedyn, a chwi a’m gwelwch,’ ac ‘Yr wyf yn myned at y tad?’” 18Meddent hwy felly: “Beth yw’r ychydig amser hwn y mae’n sôn amdano? Ni wyddom ni pa beth y mae’n ei ddywedyd.” 19Gwybu Iesu eu bod yn dymuno ei holi, a dywedodd wrthynt: “Ai ynghylch hyn yr ydych yn ymofyn gyda’ch gilydd, am fy mod i wedi dywedyd, ‘Ychydig amser ac ni’m gwelwch, ac ychydig amser wedyn a chwi a’m gwelwch’? 20Ar fy ngwir, meddaf i chwi, byddwch chwi’n wylo ac yn galarnadu, ond bydd y byd yn llawenhau. Byddwch chwi’n gofidio ond try eich gofid yn llawenydd. 21Y mae gofid ar wraig pan fo’n esgor am fod ei hamser wedi dyfod, ond pan enir y plentyn, ni chofia hi ddim o’i thrallod mwy gan ei llawenydd o eni dyn i’r byd. 22A chwithau felly, y mae gofid arnoch yn awr, ond mi a’ch gwelaf eto, a bydd eich calon yn llawen, a’ch llawenydd chwi ni chymer neb oddiarnoch. 23Ac yn y dydd hwnnw ni ofynnwch gwestiwn i mi. Ar fy ngwir, meddaf i chwi, os gofynnwch ddim gan y tad, fe’i rhydd i chwi yn f’enw i. 24Hyd yn hyn ni ofynasoch ddim yn f’enw i. Gofynnwch, a chewch, fel y byddo’ch llawenydd yn gyflawn. 25Hyn a ddywedais wrthych ar ddamegion. Y mae’r adeg yn dyfod pan na siaradaf wrthych ar ddamegion mwyach, ond hysbysaf i chwi am y tad yn eglur. 26Yn y dydd hwnnw, byddwch yn gofyn yn f’enw i, ac nid wyf yn dywedyd wrthych y gofynnaf i’r tad yn eich achos. 27Oherwydd y mae’r tad ei hunan yn eich caru, am eich bod chwi wedi fy ngharu i ac wedi credu fy nyfod allan oddiwrth Dduw. 28Deuthum allan o’r tad, ac yr wyf wedi dyfod i’r byd; yr wyf drachefn yn gadael y byd ac yn myned at y tad.” 29Medd ei ddisgyblion: “Dyma di yn awr yn siarad yn eglur, ac nid dameg yr wyt yn ei dywedyd. 30Yn awr gwyddom dy fod yn gwybod popeth, ac nad oes angen arnat i neb dy holi. Am hyn yr ydym yn credu mai oddiwrth Dduw y daethost allan.” 31Atebodd Iesu iddynt: “A ydych chwi’n credu o’r diwedd? 32Dyma’r adeg yn dyfod, yn wir wedi dyfod, y gwasgent chwi bob un at ei bethau, a gadewch fi’n unig. 33Ac eto nid wyf yn unig, gan fod y tad gyda mi. Hyn a ddywedais wrthych fel y byddo gennych dangnefedd ynof i. Yn y byd, adfyd sydd i chwi, ond codwch eich calonnau, yr wyf i wedi gorchfygu’r byd.”

Dewis Presennol:

Ioan 16: CUG

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda