Felly ar ôl iddynt gael eu brecwast, medd yr Iesu wrth Simon Pedr: “Simon fab Ioan, a wyt ti’n fy ngharu i yn fwy na’r rhain?” Medd ef wrtho: “Ydwyf, Arglwydd. Ti wyddost fy mod yn dy garu di.” Medd ef wrtho: “Portha fy ŵyn i.” Medd ef wrtho eilwaith drachefn: “Simon fab Ioan, a wyt yn fy ngharu i?” Medd ef wrtho: “Ydwyf, Arglwydd, ti wyddost fy mod yn dy garu.” Medd ef wrtho: “Bydd yn fugail ar fy nefaid i.” Medd ef wrtho y trydydd tro: “Simon fab Ioan, a wyt yn fy ngharu i?” Gofidiodd Pedr iddo ddywedyd wrtho y trydydd tro, “A wyt ti’n fy ngharu i?” ac medd ef wrtho: “Arglwydd, gwyddost ti bopeth, gwyddost ti fy mod yn dy garu di.” Medd Iesu wrtho: “Portha fy nefaid i.
Darllen Ioan 21
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Ioan 21:15-17
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos