Luc 12
12
1Yn y cyfamser, a’r bobl wedi ymgasglu yn eu miloedd nes sathru ar ei gilydd, dechreuodd ddywedyd wrth ei ddisgyblion yn gyntaf, “Ymogelwch rhag surdoes y Phariseaid, sef rhagrith. 2Nid oes dim cuddiedig nas datguddir, na dirgel nas gwybyddir. 3Am hynny popeth a ddywedasoch yn y tywyllwch, clywir ef yn y goleuni, ac a lefarasoch i’r glust yn yr ystafelloedd, cyhoeddir ef ar bennau’r tai. 4Meddaf i chwi fy nghyfeillion, nac ofnwch rhag y rhai a ladd y corff ac wedyn ni allant wneuthur dim rhagor. 5Mi ddangosaf i chwi pwy yr ydych i’w ofni; ofnwch yr hwn wedi iddo ladd sydd ganddo awdurdod i fwrw i Gehenna; ie, meddaf i chwi, hwnnw a ofnwch. 6Oni werthir pump aderyn to am ddwy ffyrling? Ac nid oes un ohonynt yn angof gan Dduw. 7Ond y mae hyd yn oed gwallt eich pen wedi eu rhifo bob un; peidiwch ag ofni; amgenach ydych na llawer o adar to. 8Meddaf i chwi, pob un a’m harddelo i yng ngŵydd dynion, Mab y dyn hefyd a’i harddel yntau yng ngŵydd angylion Duw; 9ond y neb a’m gwado i gerbron dynion, gwedir yntau gerbron angylion Duw. 10A phawb a ddywedo air yn erbyn Mab y dyn, fe faddeuir iddo; ond i’r hwn a gablo yn erbyn yr Ysbryd Glân, ni faddeuir. 11Pan ddygont chwi gerbron y synagogau a’r llywodraethwyr a’r awdurdodau, na phryderwch pa fodd yr amddiffynnwch eich hunain, neu beth a ddywedwch; 12canys yr Ysbryd Glân a ddysg i chwi yn yr awr honno beth a ddylech ei ddywedyd.”
13Dywedodd un o’r dyrfa wrtho, “Athro, dywed wrth fy mrawd am rannu’r etifeddiaeth gyda mi.” 14Dywedodd yntau wrtho, “Ddyn, pwy a’m gosododd i yn farnwr neu’n ddosbarthwr arnoch chwi?” 15A dywedodd wrthynt, “Edrychwch a gwyliwch rhag pob trachwant, canys nid yn yr helaethrwydd sydd i neb y mae ei fywyd, nid o’r pethau a, fedd.” 16A thraethodd ddameg wrthynt, gan ddywedyd, “Tir rhyw ddyn cyfoethog a gnydiodd yn dda, 17Ac ymresymai ynddo’i hun, gan ddywedyd, ‘Beth a wnaf, gan nad oes gennyf le i gasglu fy ffrwythau?’ 18Ac meddai, ‘Hyn a wnaf: mi dynnaf fy ysguboriau i lawr, a rhai mwy a adeiladaf, a chasglaf yno fy holl ŷd a’m da, 19a dywedaf wrth fy enaid, Enaid, y mae gennyt lawer o dda wedi ei ystorio dros flynyddoedd lawer; gorffwys, bwyta, yf, bydd lawen.’ 20Ond dywedodd Duw wrtho, ‘Ynfytyn! heno gofynnant dy enaid gennyt; a’r hyn a baratoaist, ai i bwy y bydd?’ 21Felly’r neb a drysoro iddo’i hun, ac nid yw’n gyfoethog i Dduw.”
22Dywedodd wrth ei ddisgyblion, “Am hynny meddaf i chwi, na phryderwch am eich bywyd, beth a fwytewch, nac am eich corff, beth a wisgwch. 23Canys y mae’r bywyd yn fwy na’r bwyd, a’r corff na’r wisg. 24Sylwch ar y brain; nid ydynt yn hau nac yn medi, ac nid oes iddynt ystordy nac ysgubor, ac eto y mae Duw yn eu porthi. Gymaint amgenach ydych chwi na’r adar! 25A phwy ohonoch drwy bryderu a ddichon chwanegu at hyd ei einioes hanner llath? 26Felly, oni ellwch hyd yn oed y lleiaf oll, paham y pryderwch am y rhelyw? 27Sylwch ar y liliau pa fodd nad ydynt yn nyddu nac yn gwau; ond meddaf i chwi, hyd yn oed Solomon yn ei holl ogoniant nid ymwisgodd fel un o’r rhain. 28Ac os dillada Duw felly’r gwellt sydd heddiw yn y maes, ac yfory a fwrir i’r ffwrn, pa faint mwy chwychwi, O rai bychain eu ffydd? 29Ac na cheisiwch chwi beth a fwytewch neu beth a yfwch, ac na chynhyrfwch; 30canys yr holl bethau hyn y mae cenhedloedd y byd yn eu ceisio, ond gŵyr eich Tad fod arnoch chwithau eisiau’r pethau hyn. 31Eithr ceisiwch ei deyrnas ef, a’r pethau hyn a roddir i chwi’n ychwaneg. 32Nac ofna, braidd bychan, canys gwelodd eich Tad yn dda roddi i chwi’r deyrnas. 33Gwerthwch eich eiddo, a rhowch elusen; gwnewch i chwi byrsau na heneiddiant, trysor anniflanedig yn y nefoedd, lle ni ddaw lleidr yn agos, ac ni ddifetha gwyfyn; 34canys lle mae eich trysor, yno y bydd eich calon hefyd. 35Bydded eich lwynau chwi wedi eu hymwregysu a’ch canhwyllau yn llosgi, 36a chwithau yn debyg i ddynion yn disgwyl eu harglwydd, pa bryd y dychwel o’r neithior, fel pan ddêl a churo yr agoront iddo yn union. 37Gwyn eu byd y gweision hynny, a gaiff eu harglwydd, pan ddêl, yn effro; yn wir, meddaf i chwi, fe ymwregysa a pheri iddynt eistedd wrth y bwrdd, a daw a gweini arnynt. 38Ac os ar yr ail neu ar y drydedd wyliadwriaeth y daw, a’u cael felly, gwyn eu byd y rhain.
39Gwybyddwch hyn: pe gwybuasai’r pen teulu pa awr y deuai’r lleidr, buasai’n effro, ac ni adasai gloddio’i dŷ trwodd. 40A chwithau, byddwch barod, canys yr awr ni thybioch y daw Mab y Dyn.”
41Dywedodd Pedr, “Arglwydd, ai amdanom ni y dywedi’r ddameg hon, ai yntau am bawb?” 42A dywedodd yr Arglwydd, “Pwy, tybed, yw’r goruchwyliwr ffyddlon, pwyllog, a esyd yr arglwydd dros ei deulu i roddi’r dogn bwyd yn ei bryd? 43Gwyn ei fyd y gwas hwnnw, y caiff ei arglwydd, pan ddêl, ei fod yn gwneuthur felly; 44dywedaf wrthych yn wir, fe’i gesyd ef dros ei holl eiddo. 45Ond os dywed y gwas hwnnw yn ei galon, ‘Mae f’arglwydd yn oedi dyfod,’ a dechrau curo’r gweision a’r morynion, a bwyta ac yfed a meddwi, 46fe ddaw arglwydd y gwas hwnnw ar ddydd nad yw’n disgwyl ac ar awr nad yw’n gwybod, a’i dorri’n ddau,#12:46 Neu efallai ei dorri ymaith ai rifo gyda’r anffyddloniaid. 47Y gwas hwnnw, a wybu ewyllys ei arglwydd heb hwylio i wneud yn ôl ei ewyllys, a gaiff wialenodiau lawer; 48ond yr hwn ni wybu, ac a wnaeth bethau’n haeddu curfa, a gaiff ychydig. Pob un y rhoddwyd llawer iddo, llawer a ofynnir ganddo, a’r neb yr ymddiriedasant lawer iddo, mwy a geisiant ganddo. 49Tân a ddeuthum i’w fwrw ar y ddaear; a balched fuaswn pes cyneuasid eisoes! 50Mae gennyf fedydd i’m bedyddio ag ef; ac mor gyfyng yw arnaf hyd onis gorffenner! 51A dybiwch mai tangnefedd a ddeuthum i’w roddi ar y ddaear? Nag e, meddaf i chwi, ond ymraniad. 52Canys bydd o hyn allan bump mewn un tŷ wedi ymrannu, tri yn erbyn dau a dau yn erbyn tri; 53ymranna tad yn erbyn mab a mab yn erbyn tad, mam yn erbyn merch a merch yn erbyn ei mam, chwegr yn erbyn ei gwaudd a gwaudd yn erbyn ei chwegr.”
54Ac meddai wrth y tyrfaoedd, “Pan welwch gwmwl yn codi yn y gorllewin, yn y fan chwi ddywedwch, ‘Mae cawod yn dyfod’; ac felly y bydd. 55A phan glywch ddeheuwynt yn chwythu, chwi ddywedwch, ‘Mae hi am wres’; ac fe fydd. 56Ragrithwyr, gwyddoch sut i farnu wyneb y ddaear a’r awyr; pa fodd na ddeallwch y cyfnod hwn? 57Paham hyd yn oed ohonoch eich hunain na fernwch yn deg? 58Pan ei o flaen ynad gyda’th wrthwynebwr, gwna dy orau ar y ffordd i gael gwared ohono, rhag iddo dy lusgo di gerbron y barnwr; a’r barnwr a’th draddoda di i’r rhingyll, a’r rhingyll a’th fwrw di yng ngharchar. 59Meddaf i ti, ni ddoi di ddim allan oddi yno nes iti dalu’r hatling eithaf.”
Dewis Presennol:
Luc 12: CUG
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Urdd y Graddedigion, Prifysgol Cymru 1945
© Guild of Graduates, University of Wales 1945

: