Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 19

19
1A phan orffennodd yr Iesu’r geiriau hyn, fe symudodd o Galilea i ororau Iwdea tu hwnt i’r Iorddonen. 2A dilynodd tyrfaoedd lawer ef, ac fe’u hiachaodd hwynt yno.
3A daeth ato Phariseaid i’w brofi gan ddywedyd, “Ai iawn i ddyn ysgar â’i wraig am bob rhyw achos?” 4Atebodd yntau a dywedodd, “Oni ddarllenasoch i’r Crëwr o’r dechrau eu gwneuthur yn wryw a benyw, 5ac iddo ddywedyd Oherwydd hyn y gedy dyn ei dad a’i fam, ac y glŷn wrth ei wraig, a bydd y ddau yn un cnawd? 6Felly nid ydynt mwyach ddau ond un cnawd. Y peth gan hynny a ieuodd Duw, na wahaned dyn.” 7Meddant wrtho, “Paham, ynteu, y gorchmynnodd Moses roi llythyr ysgar, 8a’i gollwng hi ymaith?” Medd ef wrthynt, “Moses, oherwydd eich calon-galedwch chwi, a ganiataodd i chwi ysgar â’ch gwragedd; ond ni bu felly o’r dechreuad. 9Meddaf i chwi, pwy bynnag a ysgaro â’i wraig oddieithr am anniweirdeb, ac a briodo un arall, y mae’n godinebu.” 10Medd ei ddisgyblion wrtho, “Os felly y mae perthynas gŵr â’i wraig, ni thâl priodi.” 11Dywedodd yntau wrthynt, “Nid pawb a all dderbyn y gair hwn, eithr y rhai y rhoddwyd iddynt. 12Canys y mae eunuchiaid a aned felly o groth eu mam, ac y mae eunuchiaid a wnaed yn eunuchiaid gan ddynion, ac y mae eunuchiaid a’u gwnaeth eu hunain yn eunuchiaid er mwyn teyrnas nefoedd. Y neb a ddichon ei dderbyn, derbynied.”
13Yna dygwyd ato blant bach, fel y dodai ei ddwylo arnynt, a gweddïo; a’r disgyblion a’u ceryddodd hwynt. 14Ond yr Iesu a ddywedodd, “Gedwch i’r plant bach ddyfod ataf i, ac na rwystrwch hwynt; canys rhai fel hwy biau deyrnas nefoedd.” 15Ac wedi dodi ei ddwylo arnynt, fe aeth oddi yno.
16A dyna un yn dyfod ato ac yn dywedyd wrtho, “Athro, pa dda a wnaf i gael bywyd tragwyddol?” 17Dywedodd yntau wrtho, “Paham yr holi fi am y da? Un yn unig sydd dda; ond os mynni fyned i mewn i’r bywyd, cadw’r gorchmynion.” 18Medd ef wrtho, “Pa rai?” Meddai’r Iesu, “Na ladd, Na odineba, Na ladrata, Na chamdystiolaetha, 19Anrhydedda dy dad a’th fam, a Châr dy gymydog fel ti dy hun.” 20Medd y dyn ieuanc wrtho, “Y rhain oll a gedwais; beth sydd eto ar ôl ynof?” 21Meddai’r Iesu wrtho, “Os mynni fod yn berffaith, dos, gwerth yr hyn sy gennyt, a dyro i’r tlodion, a chei drysor yn y nefoedd; a thyred, dilyn fi.” 22Pan glywodd y dyn ieuanc y gair, aeth ymaith yn ofidus; canys yr oedd yn berchen meddiannau lawer. 23A dywedodd yr Iesu wrth ei ddisgyblion, “Yn wir meddaf i chwi mai’n anodd yr â goludog i mewn i deyrnas nefoedd. 24A thrachefn meddaf i chwi, Haws yw i gamel fynd trwy grau nodwydd na goludog i mewn i deyrnas Dduw.” 25A phan glywodd y disgyblion, synnent yn ddirfawr, gan ddywedyd, “Pwy ynteu a all gael ei gadw?” 26Edrychodd yr Iesu arnynt a dywedodd, “Ym myd dynion y mae hyn yn amhosibl, ond ym myd Duw popeth sy bosibl.” 27Yna atebodd Pedr iddo, “Dyma ni wedi gadael popeth a’th ddilyn di; beth ynteu a fydd i ni?” 28A dywedodd yr Iesu wrthynt, “Yn wir meddaf i chwi, cewch chwi a’m dilynodd i, yn yr adenedigaeth pan eisteddo Mab y dyn ar orsedd ei ogoniant, eistedd chwithau ar ddeuddeg gorsedd i farnu deuddeg llwyth Israel. 29A phob un a adawodd dai neu frodyr neu chwiorydd neu dad neu fam neu blant neu diroedd er mwyn fy enw i a dderbyn lawer gwaith cymaint, a bywyd tragwyddol a etifedda. 30Ond llawer o’r rhai blaenaf a fydd yn olaf, ac o’r rhai olaf yn flaenaf.

Dewis Presennol:

Mathew 19: CUG

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda