Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 5

5
1Ac wrth weled y tyrfaoedd fe esgynnodd i’r mynydd; ac eisteddodd, a daeth ei ddisgyblion ato. 2Ac agorodd ei enau a’u dysgu gan ddywedyd,
3“Gwyn eu byd y tlodion eu hysbryd, canys hwynthwy biau deyrnas nefoedd.
4Gwyn eu byd y galarwyr, canys hwynthwy a gaiff eu diddanu.
5Gwyn eu byd y rhai addfwyn, canys hwynthwy a gaiff etifeddu ’r ddaear.
6Gwyn eu byd y rhai sy’n newynu ac yn sychedu am gyfiawnder, canys hwynthwy a gaiff eu diwallu.
7Gwyn eu byd y trugarogion, canys hwynthwy a gaiff drugaredd.
8Gwyn eu byd y rhai pur o galon, canys hwynthwy a gaiff weled Duw.
9Gwyn eu byd y tangnefeddwyr, canys hwynthwy a gaiff eu galw’n feibion i Dduw.
10Gwyn eu byd yr erlidiedig o achos cyfiawnder, canys hwynthwy biau deyrnas nefoedd.
11Gwyn eich byd pan waradwyddant chwi, a’ch erlid, a dywedyd ar gelwydd bob drwg yn eich erbyn o’m hachos i. 12Llawenychwch a gorfoleddwch, canys eich gwobr sy fawr yn y nefoedd; oblegid felly’r erlidiasant y proffwydi a fu o’ch blaen chwi.
13Chwi yw halen y ddaear; ond os cyll yr halen ei rin, â pha beth yr helltir ef? Nid yw dda i ddim mwyach ond i’w daflu allan a’i sathru gan ddynion. 14Chwi yw goleuni’r byd. Ni ellir cuddio dinas a saif ar ben bryn; 15ni oleuant gannwyll chwaith, a’i dodi dan y celwrn, eithr ar y canhwyllbren, a hi lewyrcha i bawb sydd yn y tŷ. 16Felly llewyrched eich goleuni gerbron dynion fel y gwelont eich gweithredoedd da chwi, ac y gogoneddont eich Tad sydd yn y nefoedd.
17Na thybiwch fy nyfod i ddiddymu’r gyfraith a’r proffwydi; ni ddeuthum i ddiddymu, eithr i gwblhau. 18Canys yn wir meddaf i chwi, hyd onid êl y nef a’r ddaear heibio, un iod#5:18 Sef y llythyren leiaf yn Aramaeg. nac un fachell#5:18 Gr., corn bychan neu pigyn fel rhan o lythyren. nid â heibio byth o’r gyfraith nes darfod y cwbl. 19Pwy bynnag, ynteu, a dorro un o’r gorchmynion lleiaf hyn, ac a ddysgo felly i ddynion, lleiaf y gelwir ef yn nheyrnas nefoedd. Ond pwy bynnag a’i gwnêl ac a’i dysgo, mawr y gelwir hwnnw yn nheyrnas nefoedd. 20Canys meddaf i chwi, oni bydd eich cyfiawnder chwi yn helaethach nag eiddo’r ysgrifenyddion a’r Phariseaid, nid ewch byth i mewn i deyrnas nefoedd.
21Clywsoch ddywedyd wrth y rhai gynt, Na ladd; a phwy bynnag a laddo, agored fydd i gosb. 22Ond yr wyf i’n dywedyd i chwi, Pob un a lidio wrth ei frawd, agored fydd i gosb; a phwy bynnag a ddywedo wrth ei frawd ‘Rhaca!’ bydd yng ngafael y Sanhedrin; a phwy bynnag a ddywedo ‘Ffŵl!’ agored fydd i’w fwrw i Gehenna’r tân. 23Gan hynny, os byddi’n cyflwyno dy offrwm ar yr allor, ac yno ddyfod i’th gof fod gan dy frawd ddim yn dy erbyn, 24gad yno dy offrwm gerbron yr allor, a dos yn gyntaf i gymodi â’th frawd, ac yna tyrd a chyflwyna dy offrwm. 25Bydd esgud i gymodi â’th wrthwynebwr tra fyddych gydag ef ar y ffordd, rhag ofn i’th wrthwynebwr dy draddodi i’r barnwr, a’r barnwr i’r swyddog, a’th fwrw yng ngharchar; 26yn wir meddaf i ti, ni ddoi di ddim allan oddi yno nes iti dalu’r ffyrling eithaf.
27Clywsoch ddywedyd, Na wna odineb. 28Ond yr wyf i’n dywedyd i chwi, Pob un a edrycho ar wraig i’w chwenychu hi, fe wnaeth odineb â hi eisoes yn ei galon. 29Ac os yw dy lygad dehau yn dy rwystro, tyn ef allan, a bwrw oddi wrthyt; canys fe dâl iti golli un o’th aelodau, ac na fwrier dy holl gorff i Gehenna. 30Ac os yw dy law ddehau yn dy rwystro, tor hi ymaith a bwrw oddi wrthyt; canys fe dâl iti golli un o’th aelodau, ac nad êl dy holl gorff i Gehenna.
31A dywedwyd, Pwy bynnag a ysgaro â’i wraig rhoed iddi lythyr ysgar. 32Ond yr wyf i’n dywedyd i chwi, Pob un a ysgaro â’i wraig oddieithr o achos anniweirdeb, fe bair iddi wneuthur godineb; a phwy bynnag a briodo wraig a ysgarwyd, y mae’n godinebu.
33Drachefn, clywsoch ddywedyd wrth y rhai gynt, Na thwng anudon, ond tâl i’r Arglwydd dy lwon. 34Ond yr wyf i’n dywedyd i chwi, Na thyngwch o gwbl; nac i’r nef, canys gorsedd Duw ydyw; 35nac i’r ddaear, canys troedfainc ei draed ydyw; nac i Gaersalem, canys dinas y Brenin mawr ydyw; 36ac na thwng i’th ben, canys ni elli wneuthur un blewyn yn wyn nac yn ddu. 37Ond boed eich gair ie yn ie, a’ch nage yn nage;#5:37 Cymh. Iago 5:12. rhagor na’r rhain, o’r drwg y mae.
38Clywsoch ddywedyd, Llygad am lygad a dant am ddant. 39Ond yr wyf i’n dywedyd i chwi, Na wrthsefwch y drwg; eithr pwy bynnag a’th gernodio ar dy rudd ddehau, tro’r llall iddo hefyd. 40A’r neb a fynno roi cyfraith arnat a chymryd dy grysbais, gad iddo dy fantell hefyd. 41A phwy bynnag a’th orfodo i fynd un filltir, dos gydag ef ddwy. 42Y neb a geisio gennyt, dyro iddo; a’r neb a ddymuno fenthyca gennyt, na thro oddi wrtho.
43Clywsoch ddywedyd, Câr dy gymydog a chasâ dy elyn. 44Ond yr wyf i’n dywedyd i chwi, Cerwch eich gelynion a gweddïwch dros eich erlidwyr, 45fel y byddoch yn feibion i’ch Tad sydd yn y nefoedd canys gwna i’w haul godi ar rai drwg a rhai da, a glawia ar gyfiawn ac anghyfiawn. 46Canys os cerwch y rhai a’ch câr, pa wobr sydd i chwi? Onid yw hyd yn oed y trethwyr yn gwneuthur yr un peth? 47Ac os cyferchwch well i’ch brodyr yn unig, pa orchest a wnewch? Onid yw hyd yn oed y cenedl-ddynion yn gwneuthur yr un peth? 48Byddwch chwi gan hynny’n berffaith fel y mae’ch Tad nefol yn berffaith.

Dewis Presennol:

Mathew 5: CUG

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda