Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salmau 3

3
Salm III.
Cerdd#3:0 Cerdd, arwydda’r gair, gangen, neu gainc; a dywedwn ni, y Cymry, cainc o gerdd. Tebyg yw y cerfient eu cerddi gynt ar ganghenau. Rhyfedd yw fod y ddwy iaith yn treftadu’r gair am gân neu gerdd yn yr un modd. o eiddo Dafydd, pan ffôdd o ŵydd Absalom ei fab.
1 Iehova, mor aml yw fy ngorthrymwyr#3:1 gorthrymwyr, cyfyngwyr, megys helwyr a yrant eu helfa i gyfyng-le, nad oes dihangfa o hono. LXX, οι θλιβοντες με, y rhai a wasgant arnaf.!
Llawer a gyfodant i’m herbyn;
2Llawer a ddywedant am fy enaid —
Nad “oes” waredigaeth iddi yn Nuw. Selah#3:2 Selah, LXX, διαψαλμα, amrywiaeth mewn canu. Tebygol yw mai nôd cynghanedd yw, a hyny er dyrchafu’r llais, gan mai dyrchafu yw gwreiddiol ystyr y gair..
3Ond ti, Iehova, “wyt” darian o’m cylch#3:3 o’m cylch. Felly Junius a Thremelius, circa me; ac felly y dylid cyfieithu y rhagosodiad yn ol Buxtorf. ,
Fy ngogoniant#3:3 Fy ngogoniant, sef, perydd a chyfranydd ei Ogoniant; Duw sydd yn ei toddi. Mae gogoniant ac anrhydedd dyn yn dyfod oddi uchod. Cyfaddefai Dafydd hyn: neu gellir ei ystyried yn cyfaddef mai bod Duw yn gyfaill iddo ydoedd ei ogoniant: a thyma’r gogoniant a’r anrhydedd mwyaf; ie, anfeidrol fwy yw nag un arall. a dyrchafydd fy mhen.
4Fy llef#3:4 Fy llef, etc. Dyma’r llinell yn llythyrenol. Nid oes un achos a ellir nodi pam y dodir, gelwais, yn lle galwaf, Mae’r perwyddiad yn yr amser dyfodol, yr hwn a arfer yr Hebraeg, fel y Gymraeg, yn aml am yr amser presennol, pan ddynodir gweithred yn awr yn bod ac i barhau; megys Credaf yn Nuw Dad, etc, Traetha yn y bummed adnod yr hyn a wnaethai Duw eisoes drosto, (el nil i’w gred y byddai Duw i’w ateb o’i fynydd sanctaidd). Yn llawn o ffydd, hyf-draethi ei bwer yn y chweched. “sydd” ar Iehova — galwaf,
Ac ateb fi o’i fynydd sanctaidd. Selah.
5Mi a orweddais ac a gysgais;
Deffroais, canys Iehova a’m cynhaliodd.
6Nid ofnaf rhag myrddiwn o bobl,
Rhai o amgylch a safant i’m herbyn.
7Cyfod, Iehova; gwared fi, fy Nuw:
Canys tarawaist#3:7 Canys tarawaist, etc, Gwna yma gyffelyb beth. Gweddia am ymwared; ac er cefnogi ei arch, sonia am yr hyn a wnaethai Duw drosto o’r blaen. ‘Gwared ti,’ meddai, ‘o herwydd gwaredaist fi cyn hyn, gan daro a dryllio fy holl elynion.’ — fy holl elynion ar yr ên,#3:7 taro ar yr ên,neu gernodio, a arwydda ammharch neu waradwydd. Gwnaeth Duw waradwyddo ei elynion.
Dannedd#3:7 dryllio’r Danneddsy’n dynodi i Dduw amddifadu yr annuwiolion o allu i niweidio a llarpio Dafydd. Mae greddf ysglyfaethus bwystfilod mewn dynion annuwiol. Erlid a llarpio pobl Dduw a wnant pan allont. Pan tyno Duw ymaith eu gallu, mae efe megys yn tori eu dannedd. Diolchwn i Dduw nad oes gan annuwiolion yn ein gwlad ni ddim dannedd yn yr oes hon. Y maent wedi eu dryllio. yr annuwiolion a ddrylliaist.
8Eiddo Iehova y waredigaeth#3:8 gwaredigaeth— cymmwysach gair yw yma, ac yn gyffredin yn y Salmau, nag iechydwriaeth. Ymwared rhag gelynion a feddylir, Nid anaddas fyddai, achubiaeth. Adferiad iechyd yw iechydwriaeth, a phriodol yw i’r gwaith ysprydol a wneir ar yr enaid. Ond meddyliaf mai achubiaeth neu waredigaeth a fyddai addasach mewn amryw fanau hyd yn oed yn y Testament Newydd. “Nid oes iachawdwriaeth yn neb arall,” Act. 4:12. gwell o ran synwyr fyddai, “Nid oes achubiaeth, neu waredigaeth, yn neb arall;” a gwell nag un o’r ddau fyddai cadwedigaeth. Cyfieithir yr un gair fel perwyddiad yn niwedd yr adnod, “bod yn gadwedig.” ; —
Ar dy bobl “y mae”#3:8 Ar dy bobl “y mae”, etc. neu, boed dy fendith. Ond nid gweddi, fel y tybygaf, ond traethiad o’r hyn sydd yn bod yn ol addewid Duw, ydyw yr ymadrodd. dy fendith. Selah.

Dewis Presennol:

Salmau 3: TEGID

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda