Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Lyfr y Psalmau 21

21
1Llawen yw’r Brenhin, Arglwydd Ner,
Yn nerth dy gryfder grymmus;
Mor hyfryd yw yn iechyd Ion
Ei galon orfoleddus!
2Rhoist iddo, Ior, yr hyn i gyd
A fynnai bryd ei galon;
Ac ni’s gommeddaist roddi ’n glau
Gais ei wefusau ffyddlon.
3Achubaist flaen ei weddi, do,
A’r gorau o fendithion;
Herddaist ef â choethedig aur,
Ei ben â rhuddaur goron.
4Gofynodd am gael gennyt oes,
A rhoist hir einioes iddo;
Oes hir a theg o ddyddiau ’n llawn
Hyd byth yw ’r ddawn sy ganddo.
5Ei urddas yn dy iechyd Di,
Sy fawr mewn bri a harddwch;
Rhoist arno ’n goron, Arglwydd da,
Ogoniant a phrydferthwch.
6Yn fendith byth y gwnaethost ef,
Bendithion nef sydd arno;
Llawenydd pur dy siriol wedd
Sy ’n llawn gorfoledd iddo.
YR AIL RAN
7Gobaith y Brenhin yn Nuw sydd,
Ar Hwnnw rhydd ei hyder;
Drwy ras Goruchaf Arglwydd nef,
Nid ysgog ef un amser.
8O’th rymmus law ni ddïangc dyn
O gyndyn lu ’th gaseion;
Dy ddehau law gaiff afael ar
Ystyfnig warr d’ elynion.
9Fel ffwrnais boeth y gwnei hwy, Ner,
Yn nydd dy ddigter poethlym;
Fe ’u difa ’r Ior mewn llid a thân,
A’i ddig a’u hysa ’n gyflym.
10Ei hil a’u ffrwyth, yn fawr a mân,
O’r tir yn lân distrywi;
Eu had a’u heppil oll i gyd,
Yn llwyr o’r byd a dynni.
11I’th erbyn amcanasant ddrwg,
Mewn ofer wg, heb arswyd;
Ond llwyr fethasant ei gwblhâu,
Eu bwriad gau a rwystrwyd.
12Am hynny gwnei Di iddynt ffoi,
A phrysur droi eu cefnau;
Gosodi ’th saeth ar linyn tynn
Yn erbyn eu hwynebau.
13Ymddyrcha, Ior, yngrym dy nerth,
I’th Enw prydferth canwn;
A’th gadarn allu dan y rhod
Drwy lafar glod canmolwn.

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda